Cymeriadau hanesyddol lleol
Mae dyffryn Teifi wedi bod yn gartref i lu o bersonoliaethau diddorol ar hyd y blynyddoedd. Yn y traddodiadau cynharaf sydd wedi goroesi ynghylch nawddsant Cymru, roedd gan Dewi Sant ei hun gysylltiad agos â’r ardal ac â Llanddewi Brefi.
Roedd clerigwyr lleol megis Daniel Rowland o Langeitho ac Eliezer Williams a John Williams o Lanbedr Pont Steffan yn addysgwyr yn ogystal â chlerigwyr, a chwaraeodd Eliezer Williams ran hollbwysig yn y gwaith o sefydlu Coleg Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan. Roedd Daniel Rowland yn un o ffigyrau mwyaf dylanwadol y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru, a chyhoeddodd lyfrau o’i bregethau ei hun ynghyd â chyfieithiadau o weithiau eraill i’r Gymraeg.
Roedd cymeriadau lleol amlwg eraill yn cynnwys y Llyngesydd John Thomas a gollodd ei goes wrth ymladd yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America ond a enillodd ddigon o arian ysbail yn ystod ei yrfa i brynu maenor Llanfechan gerllaw, wrth ymyl Llanybydder. Cafodd y bardd Daniel Evans (Daniel Ddu) ei addysgu gan Eliezer Williams yn Llanbedr Pont Steffan, ac mae wedi’i gladdu ym mynwent Pencarreg. Mae Llanwenog yn gartref i gyfres helaeth o gerfiadau ar gorau’r eglwys, sydd o waith yr artist Joseph Reubens a oedd yn ffoadur o Wlad Belg. Cafodd ei groesawu i gartref y Cyrnol Herbert Davies-Evans yn Highmead, sydd ychydig i’r de o Lanwenog.











