Llanllwni
Mae eglwys Llanllwni mewn lleoliad hardd ar safle uchel sy’n edrych dros afon Teifi ac sydd wrth ymyl mwnt canoloesol. Mae’r adeilad yn adeilad rhestredig Gradd II ac mae ganddo dŵr tal â pharapet o’r unfed ganrif ar bymtheg. Ni wyddys yn iawn i bwy yr oedd yr eglwys wedi’i chysegru yn yr Oesoedd Canol, ac mae wedi’i chysegru i Sant Luc erbyn hyn. Yn y gorffennol, fodd bynnag, credir iddi gael ei chysegru i seintiau o’r enw Llonio neu Llwni.
Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, Ceredigion, Cymru, SY25 6ES
Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig, Ceredigion, Cymru, SY25 6AA
Eglwys Sant Caron, Tregaron, Ceredigion, Cymru, SY25 6JL
Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal, Lledrod, Ceredigion, Cymru, SY23 4TS
Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Odwyn, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TZ
Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TR
Eglwys y Santes Lucia, Betws Leucu, Ceredigion, Cymru, SY25 6SW
Eglwys Sant Gartheli, Gartheli, Nantcwnlle, Llwyn-y-groes, Ceredigion, Cymru, SA48 8PP
Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, Ceredigion, Cymru, SY25 6RX
Eglwys Sant Cybi, Llangybi, Ceredigion, Cymru, SA48 8NG
Eglwys Sant Bledrws, Betws Bledrws, Ceredigion, Cymru, SA48 8NX
Eglwys y Santes Fair, Llanfair Clydogau, Ceredigion, Cymru, SA48 8LJ
Eglwys Dewi Sant, Llan-y-crwys, Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA19 8LX
Eglwys Sant Llonio, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA39 9LT
Eglwys y Santes Gwenog, Llanwenog, Cwrtnewydd, Ceredigion, Cymru, SA40 9UT
Eglwys Sant Pedr, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9UD
Eglwys Sant Padrig, Pencarreg, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9QQ
Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7EL
Maestir Road, Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7JW
Eglwys Sant Gwynin, Llanwnnen, Ceredigion, Cymru, SA48 7LA
Eglwys Sant Iago, Cwmann, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA48 8DU
Mae’r eglwys ym mhentref bach Maesycrugiau, i’r gogledd-orllewin o Lanllwni ar yr A485.
Cod Post SA39 9LT
Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans SN47344130
Sant Llonio yw nawddsant Llandinam yn Sir Drefaldwyn, a gwyddys am gerdd a ysgrifennwyd er anrhydedd iddo yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Mae cyfeiriad cynharach at Llonio Lawhir yn ei enwi fel mab Alan Fyrgan, mab Emyr Llydaw, sy’n rhoi iddo wreiddiau Llydewig ac sy’n ei gysylltu â’r traddodiad Arthuraidd. Tybir mai cysegriad modern yw’r cysegriad i Sant Luc.
Cafodd corff canoloesol yr eglwys ei addasu’n helaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chafodd ei ailwampio mewn arddull Celf a Chrefft gan W. Ellery Anderson yn 1934. Mae’r bwrdd allor o garreg yn dyddio o’r Oesoedd Canol, a chafodd ei roi’n ôl yn ei safle gwreiddiol yn 1917 ar ôl cael ei ddefnyddio am gyfnod hir fel sedd y tu allan i’r drws gorllewinol. Mae’r bedyddfaen â phowlen sgwâr, o’r drydedd ganrif ar ddeg, yn cyd-fynd â’r bwrdd allor.
Mae cofgolofn sy’n dyddio o oddeutu 1810 yn coffáu’r Llyngesydd John Thomas o Lanfechan, a anwyd yn lleol. Roedd yn gapten ffrigad llwyddiannus, a gollodd ei goes wrth ymladd yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America ond a enillodd ddigon o arian ysbail yn ystod ei yrfa i brynu maenor lleol o’r enw Llanfechan.
Cafodd ffenestr liw o 1936, sef tua diwedd cyfnod yr Adfywiad Gothig, ei chreu gan Christopher Charles Powell ac mae’n portreadu Sant Ffransis.
Mae’r fynwent yn cynnwys dau fawsolëwm teuluol nodedig o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae’r ddau yn nodweddion rhestredig Gradd ll.
Eglwysi eraill sydd gerllaw








