Lampeter_DSC3474-71B
previous arrow
next arrow

Llanbedr Pont Steffan

Mae’r eglwys yn Llanbedr Pont Steffan wedi’i chysegru i’r apostol Pedr. Dyma eglwys fwyaf yr ardal, ac ystyrir mai hon yw eglwys Fictoraidd orau’r sir. Mae’n nodedig oherwydd ei chasgliad eithriadol o ffenestri lliw, yn enwedig ei ffenestr orllewinol gan yr artist Gwyddelig enwog, Wilhelmina Geddes.

Mae’r sôn cyntaf am eglwys ar y safle yn 1291, ond cafodd eglwys arall ei chodi yn ei lle yn 1838 ac unwaith eto ddiwedd yr 1860au. Cafodd eglwys R. J. Withers ei chwblhau yn 1870.


Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, Ceredigion, Cymru, SY25 6ES

Gwybodaeth

Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig, Ceredigion, Cymru, SY25 6AA

Gwybodaeth

Eglwys Sant Caron, Tregaron, Ceredigion, Cymru, SY25 6JL

Gwybodaeth

Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal, Lledrod, Ceredigion, Cymru, SY23 4TS

Gwybodaeth

Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Odwyn, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TZ

Gwybodaeth

Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TR

Gwybodaeth

Eglwys y Santes Lucia, Betws Leucu, Ceredigion, Cymru, SY25 6SW

Gwybodaeth

Eglwys Sant Gartheli, Gartheli, Nantcwnlle, Llwyn-y-groes, Ceredigion, Cymru, SA48 8PP

Gwybodaeth

Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, Ceredigion, Cymru, SY25 6RX

Gwybodaeth

Eglwys Sant Cybi, Llangybi, Ceredigion, Cymru, SA48 8NG

Gwybodaeth

Eglwys Sant Bledrws, Betws Bledrws, Ceredigion, Cymru, SA48 8NX

Gwybodaeth

Eglwys y Santes Fair, Llanfair Clydogau, Ceredigion, Cymru, SA48 8LJ

Gwybodaeth

Eglwys yr Holl Saint, Cellan, Ceredigion, Cymru, SA48 8HZGwybodaeth

Eglwys Dewi Sant, Llan-y-crwys, Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA19 8LX

Gwybodaeth

Eglwys Sant Llonio, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA39 9LT

Gwybodaeth

Eglwys y Santes Gwenog, Llanwenog, Cwrtnewydd, Ceredigion, Cymru, SA40 9UT

Gwybodaeth

Eglwys Sant Pedr, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9UD

Gwybodaeth

Eglwys Sant Padrig, Pencarreg, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9QQ

Gwybodaeth

Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7EL

Gwybodaeth

Maestir Road, Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7JW

Gwybodaeth

Eglwys Sant Gwynin, Llanwnnen, Ceredigion, Cymru, SA48 7LA

Gwybodaeth

Eglwys Sant Iago, Cwmann, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA48 8DU

Gwybodaeth


Cyrraedd Eglwys Llanbedr Pont Steffan

Gellir cyrraedd yr eglwys ar hyd y prif lwybr o Stryd yr Eglwys, sydd ar oleddf graddol. Mae yna lwybr gwastad â thri gris drwy’r fynedfa ym Mryn yr Eglwys.
Gellir parcio car ar y stryd ger yr eglwys ac mae maes parcio mawr arall i’w gael yng nghanol y dref.
Mae arosfannau bysiau gerllaw yn y Stryd Fawr (ar yr A475) – lle ceir gwasanaethau mynych.
Mae’n bosibl parcio beiciau wrth ymyl yr eglwys.
Mae toiledau i’w cael yng nghanol y dref.
Mae lluniaeth ar gael mewn caffis a thafarnau gerllaw.


Gwasanaethau’r eglwys ar ddydd Sul.
Cymun dywededig: 8:00am yn neuadd yr eglwys gerllaw (Bryn yr Eglwys – gyferbyn â gorsaf yr heddlu).
Cymun dywededig neu wasanaeth boreol: 10:30am yn yr eglwys.
Allwedd a llawlyfr 01570 421698 (drwy apwyntiad)
Cod Post SA48 7EL
Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans SN57554836


Saif Eglwys Sant Pedr mewn mynwent grom fawr mewn man uchel ac amlwg sy’n edrych dros y dref o ben un o sawl bryn sy’n amgylchynu’r dref farchnad hanesyddol.

Roedd yr eglwys a ailgodwyd yn 1838 o ansawdd gwael, a chafodd yr adeilad presennol ei godi yn ei lle, yn bennaf o ganlyniad i ymdrechion y tirfeddiannwr lleol John Battersby Harford, sef un o’r teulu o fancwyr a arferai fod yn Grynwyr. Dyluniad R. J. Withers oedd yr arddull Gothig Uchel mawreddog o oes Fictoria, ac mae gan yr eglwys dŵr de-orllewinol ac arno gap siâp pyramid sydd wedi’i orchuddio â llechi. Mae’r tu mewn aruchel, a bwysleisir gan gyplysau pren sydd yn y golwg, yn cynnwys corff yr eglwys a changell gyda Chapel y Forwyn Fair yn yr ale ddeheuol, sydd wedi’i wahanu oddi wrth yr eglwys gan bileri crwn mawr. Nid yw paent gwyn a roddwyd ar y muriau ddiwedd yr ugeinfed ganrif mewn arddull Anghydffurfiol yn llwyddo i guddio’n llwyr rai manylion cain sydd wedi’u cerfio. Mae’r cerfiadau hynny’n cynnwys penddelwau sy’n bortreadau o’r Esgob Connop Thirwell o Dyddewi a’r Parchedig Llewelyn Lewellin, Deon Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Prifathro Coleg Dewi Sant gerllaw, a ficer cyntaf yr eglwys newydd.

Mae’r pulpud a’r bedyddfaen siâp cylch wedi’u creu o garreg, yn ogystal â’r gwrthgefn allor addurnedig gyda’i bortreadau mosäig o Grist ar Ei Orsedd a’r symbolau o’r pedwar efengylwr. Mae’r organ sydd â phren o’i hamgylch, ar ochr ogleddol y gangell, o waith Vowles of Bristol (1884), ac mae’n cyd-fynd â gwaith pren gwych Caröe yn y gangell.


Nodwedd amlycaf tu mewn yr eglwys yw ei chasgliad o wydr lliw. Mae ffenestr ddwyreiniol o 1875 sy’n darlunio’r Croeshoelio – sy’n cynnwys pum paen ac sydd dan bennau treswaith o 1870 – i’w gweld rhwng dwy ffenestr arall yn y seintwar. Mae’r ffenestr ddeheuol yn darlunio’r Atgyfodiad ac mae’r ffenestr ogleddol yn darlunio Dafydd a Solomon o 1938. Comisiwn Crist i Sant Pedr sydd yn ffenestr ddwyreiniol yr ale ddeheuol, ac mae gweddill ffenestri’r ale yn dathlu Sant Cristoffer, Dewi Sant, Sant Tysilio a Sant Garmon ac yn cynnwys portread o’r Forwyn Fair hefyd o 1931. Mae’r ffenestr fwyaf gorllewinol o’r ffenestri llai o faint hyn yn yr ale ddeheuol, sy’n dyddio o 1939, o waith Ninian Comper, sef un o benseiri eglwysig pwysicaf yr ugeinfed ganrif. Mae’n portreadu’r Santes Helen yn cario’r Wir Groes.


Mae’r pedair ffenestr ogleddol fawr yn portreadu’r Santes Anne a’r Santes Elizabeth, Crist â Gweithredoedd Trugarog, a Chyfiawnder ac Aberth ac mae’r ffenestr fwyaf gorllewinol yn portreadu’r Brenin Dafydd a Sant Luc. Mae’r cyfan yn dyddio o 1919 i 1925, ac mae dwy o’r ffenestri yn tystio i drawma’r cyfnod hwnnw. Mae’r ffenestr Cyfiawnder ac Aberth yn gofeb i un a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae’n cynnwys delwedd o filwr Prydeinig marw, sy’n anarferol. Mae’r ffenestr sy’n portreadu’r Santes Anne a’r Santes Elizabeth wedi’i chysegru er cof am Elizabeth Battersby Harford a fu farw yn 1919. Cafodd ei geni yn 1829, yn ferch i’r Barwn Christian von Bunsen, llysgennad Prwsia i’r Fatican ac yn nes ymlaen i Brydain Fawr. Mae’n druenus gweld y plac pres sy’n union dan y ffenestr hon, sy’n coffáu marwolaeth ei hŵyr, John Henry Harford, a oedd yn filwr Prydeinig a fu farw yn 1916 yn ystod rhyfel 1914–18 rhwng mamwlad Elizabeth a’r wlad a oedd wedi’i mabwysiadu.


Nodwedd fwyaf neilltuol Eglwys Sant Pedr yw ei ffenestr orllewinol, sef gwaith Wilhelmina Geddes, sy’n dehongli elfennau o fywyd nawddsant yr eglwys. Cafodd y ffenestr ei chomisiynu’n wreiddiol yn 1937 gan Syr Arthur Harford, ond cafodd y gwaith o’i gosod ei ohirio tan 1946 oherwydd yr Ail Ryfel Byd. Mae’r ffenestr yn un o’r gweithiau gwydr lliw pwysicaf a welir mewn unrhyw eglwys yng Nghymru. Mae Crist, sydd ag eglwys yn ei freichiau, yn sefyll rhwng Sant Pedr a Sant Andreas a oedd yn bysgotwyr. Mae’r ffenestr yn ein hatgoffa am y modd y galwodd Iesu arnynt, ac yn darlunio naratif Mathew yn ogystal â phroffwydoliaeth Eseia ynglŷn â’r digwyddiad.


Mae cyntedd yr eglwys yn cynnwys nifer o gofebau o bwys a symudwyd yma o’r adeiladau cynharach a oedd ar y safle. Y brif gofeb o’u plith yw cofeb fawr o farmor o 1820 i goffáu’r Parchedig Eliezer Williams, sylfaenydd ysgol ramadeg enwog Llanbedr Pont Steffan. Roedd disgyblion adnabyddus niferus yr ysgol honno’n cynnwys mab Syr Walter Scott. Mae adeilad yr ysgol yn bodoli o hyd, gyferbyn â phorth y fynwent.

Mae hefyd yn werth crwydro o gwmpas mynwent Eglwys Sant Pedr. Mae ynddi nifer o goed yw hynafol, mawr. Ysgrifennodd sawl awdur hynafiaethol o’r ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg am eu hoedran mawr, gan gofnodi arferion gwerin sy’n gysylltiedig â nhw.

Mae’r fynwent hefyd yn cynnwys nifer o feddrodau a beddau cywrain o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae symlrwydd dau safle yn y fynwent yn drawiadol o hyd ac yn gwneud i rywun feddwl. Mae un ohonynt o fewn porth y fynedfa: dros gant o feddau pobl a arferai fyw yn wyrcws y plwyf a oedd gerllaw, gyda cherrig beddau bach ac arnynt rif a llythrennau cyntaf enwau’r bobl yn unig. Mae’r safle arall wrth ymyl y wal derfyn ddwyreiniol, lle ceir dau fedd sy’n perthyn i Gomisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad. Maent wedi’u creu yn unol â dyluniad safonol ar ffurf ‘carreg filltir’, ac maent wedi’u cerfio o garreg lwyd, leol yn hytrach na’r calchfaen Portland arferol. Maent yn nodi safleoedd gweddillion dau frawd o Lanbedr Pont Steffan, sef David a Harry Sturdy, a fu farw tra oeddent yn gwasanaethu yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Y Parchedig Eliezer Williams


Eglwysi eraill sydd gerllaw


Mae Eglwys Gatholig Ein Harglwyddes o Fynydd Carmel yn agos i’r eglwys, ac ynddi ceir amrywiaeth diddorol o
weithiau celf.

Yew trees and church tower at Lampeter