Gwydr Lliw
Mae gwydr lliw yn gelfyddyd sydd fwy neu lai’n mynd law yn llaw ag eglwysi. Mae ffenestri lliw o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif i’w gweld mewn llawer o eglwysi ar hyd Llwybr Ffydd Afon Teifi.
Mewn rhai achosion, mae’r ffenestri yn cynnwys gwydr plaen gyda gwaith plwm addurnol a darnau bach o wydr lliw, fel yng Nghellan a Llangybi. Mae ffenestri a grëwyd yn lleol i’w gweld yn Llanwenog, a Celtic Studios – cwmni o’r ugeinfed ganrif yn Abertawe – oedd yn gyfrifol am ffenestri yn Nhregaron, Llangeitho a Llanfair Clydogau. Cafodd ffenestr newydd gan Catrin Davies ei gosod yn Nhregaron yn ddiweddar, yn 2022.
Ym Metws Bledrws, mae bron bob un o’r ffenestri yn cynnwys gwydr lliw o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, mewn patrwm o ffenestri Cyn-Raffaelaidd hardd gan gwmni Shrigley & Hunt o Gaerhirfryn. Mae gwaith diweddarach gan y cwmni i’w weld yn Nhregaron.
Y ffenestr orllewinol enwog yn Llanbedr Pont Steffan yw gwaith gwych olaf Wilhelmina Geddes, yr artist neilltuol o Iwerddon, ac mae gwaith sawl artist a stiwdio arall i’w weld yno hefyd. Mae canllaw i’r gwydr lliw sydd yn Llanbedr Pont Steffan ar gael yn yr eglwys.

















