Betws Bledrws
Mae cysylltiad agos rhwng Eglwys Sant Bledrws ac ystâd Derry Ormond gerllaw, sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a’r teulu Inglis-Jones.
Gwyddys bod eglwys ganoloesol ar y safle, ond y bedyddfaen o’r ddeuddegfed ganrif yw’r unig beth sy’n weddill o’r adeilad cynharach. Ychwanegwyd meindwr o lechi at y tŵr pedairochrog, sy’n troi’n dŵr chweochrog wrth iddo godi. Mae’r dyluniad yn un anarferol sy’n dyddio’n ôl i 1831. Cafodd gweddill yr eglwys ei ailgodi yn 1887, gan D. E. Thomas o Hwlffordd.
Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, Ceredigion, Cymru, SY25 6ES
Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig, Ceredigion, Cymru, SY25 6AA
Eglwys Sant Caron, Tregaron, Ceredigion, Cymru, SY25 6JL
Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal, Lledrod, Ceredigion, Cymru, SY23 4TS
Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Odwyn, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TZ
Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TR
Eglwys y Santes Lucia, Betws Leucu, Ceredigion, Cymru, SY25 6SW
Eglwys Sant Gartheli, Gartheli, Nantcwnlle, Llwyn-y-groes, Ceredigion, Cymru, SA48 8PP
Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, Ceredigion, Cymru, SY25 6RX
Eglwys Sant Cybi, Llangybi, Ceredigion, Cymru, SA48 8NG
Eglwys Sant Bledrws, Betws Bledrws, Ceredigion, Cymru, SA48 8NX
Eglwys y Santes Fair, Llanfair Clydogau, Ceredigion, Cymru, SA48 8LJ
Eglwys Dewi Sant, Llan-y-crwys, Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA19 8LX
Eglwys Sant Llonio, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA39 9LT
Eglwys y Santes Gwenog, Llanwenog, Cwrtnewydd, Ceredigion, Cymru, SA40 9UT
Eglwys Sant Pedr, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9UD
Eglwys Sant Padrig, Pencarreg, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9QQ
Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7EL
Maestir Road, Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7JW
Eglwys Sant Gwynin, Llanwnnen, Ceredigion, Cymru, SA48 7LA
Eglwys Sant Iago, Cwmann, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA48 8DU
Mae’r eglwys wrth ymyl yr A485 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Thregaron, ger arosfannau bysiau’r pentref.
Mae’n bosibl parcio ceir gerllaw a pharcio beiciau yn y fynwent.
Cod Post SA48 8NX
Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans SN59585200
Ceisiadau am allwedd a llawlyfr i ymwelwyr: Ms Dinah Gibbons 01570 493344
Gwasanaethau: Caiff y cymun ei ddathlu bob dydd Sul am 10:45am fel rheol, ond cofiwch wirio hynny cyn teithio.
Mae Bledrws yn absennol o unrhyw hanes. Cafodd esgob o Forgannwg, o’r enw Bledri (a fu farw yn 1022), ei gysegru gan Elfric, Archesgob Caergaint. Yn ôl y sôn, cyflwynwyd y fugeilffon iddo gan Ethelred y Digyngor, brenin Lloegr. Ar wahân i hynny, mae’r enw Bletri wedi’i gofnodi hefyd mewn rhestr o abadau Llanilltud Fawr.
Ystyr betws yw tŷ gweddi, sydd efallai’n awgrymu yn enw’r pentref bod gan y lle gysylltiad â gweddïo ac addoliad preifat.
Mae gan y bedyddfaen fach o’r ddeuddegfed ganrif orchudd pren o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a dywedir ei fod wedi’i wneud o samplau derw a gymerwyd o un deg naw o Eglwysi Ceredigion. Mae gwydr lliw a ddyluniwyd gan Carl Almquist o gwmni Shrigley & Hunt, Lancaster yn addurno’r corff, y gangell a’r porth. Tynnwyd y ffenestr ddwyreiniol flaenorol a’i hailosod yn yr Eglwys gyfagos yn Llangybi. Nid oes unrhyw feinciau, yn lle hynny, mae seddi anarferol â chefn uchel, pob un wedi’i chodi uwchben yr un o’i blaen, ar draul John Jones o Derry Ormond.
Ar y bryn gyferbyn â’r Eglwys mae tŵr Derry Ormond, a godwyd yn 1821–4, fel cofeb i Frwydr Waterloo.
Eglwysi eraill sydd gerllaw







