Coed yw hynafol
Ceir cysylltiad agos rhwng coed yw a hen fynwentydd. Nid yw’n anarferol i’r coed fod yn hŷn na’r eglwys a sefydlwyd ar y safle, ac mae hynny’n awgrymu bod eglwysi wedi’u sefydlu ar safleoedd a oedd yn sanctaidd cyn cyfnod Cristnogaeth.
Mae terfynau crwm yn arwyddion o fynwentydd canoloesol cynnar hefyd. Mae amlinellau crwm y safleoedd hyn yn dangos bod yr eglwysi ar y safleoedd dan sylw gryn dipyn yn hŷn na’r strwythurau presennol. Mae enghreifftiau da i’w cael ymhlith nifer o eglwysi ar hyd Llwybr Ffydd Afon Teifi, sy’n cynnwys rhan ddeheuol mynwent Eglwys Sant Pedr yn Llanbedr Pont Steffan.
Mae gan fynwent Eglwys Sant Pedr 14 o goed yw hardd – pump yn goed gwrywaidd a naw yn goed benywaidd. Cafodd y goeden fwyaf ei mesur yn 2006, a chanfuwyd bod ei chwmpas bron yn bum metr o faint a’i bod yn 15 metr o daldra. Roedd y goeden ail fwyaf yn 13 metr o daldra. Mor bell yn ôl ag 1810, byddai awduron teithio’n ymweld â’r coed yw i’w cofnodi ar gyfer teithlyfrau cynnar i dwristiaid. Yn 1878, disgrifiodd un ohonynt ganghennau isaf y coed yw fel a ganlyn: ‘hung with pickaxes, shovels, rakes, trestles, ladders &c., reminding the spectator of heathen fetish worship.’
Yr eglwysi eraill sydd â choed yw hynafol yw Llanfair Clydogau, Llangeitho, Llangybi, Llan-y-crwys ac Ystrad Fflur lle nododd ymwelydd yn ystod yr 1530au fod gan y fynwent 39 o ‘vast ewgh trees’. Dim ond dwy o’r coed hynafol dan sylw sy’n weddill erbyn hyn, a honnir bod un ohonynt yn dangos ble mae bedd y bardd canoloesol enwog o Gymru, Dafydd ap Gwilym.











