Ystrad Fflur
Mae cysegriad yr eglwys fechan hon yn gysylltiedig â’i lleoliad ar safle adfeilion y fynachlog Sistersaidd, oherwydd roedd yr urdd fel ei sylfaenydd, Bernard de Clairvaux, yn mawrygu’r Forwyn Fair yn arbennig.
Mae’r adeilad presennol yn dyddio o 1815, a chafodd gwaith adfer ei gyflawni yn 1875 ac yn 1914. Fodd bynnag, roedd yna eglwys ar y safle cyn hynny – capel efallai, a oedd yn eiddo i’r abaty. Ymddengys fod dyluniad yr adeilad hwnnw’n debyg i ddyluniad yr eglwys bresennol, ond heb gwt clychau, a chaiff ei ddarlunio yn yr engrafiad o’r abaty a gyhoeddwyd gan Samuel a Nathaniel Buck yn 1741.
Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, Ceredigion, Cymru, SY25 6ES
Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig, Ceredigion, Cymru, SY25 6AA
Eglwys Sant Caron, Tregaron, Ceredigion, Cymru, SY25 6JL
Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal, Lledrod, Ceredigion, Cymru, SY23 4TS
Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Odwyn, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TZ
Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TR
Eglwys y Santes Lucia, Betws Leucu, Ceredigion, Cymru, SY25 6SW
Eglwys Sant Gartheli, Gartheli, Nantcwnlle, Llwyn-y-groes, Ceredigion, Cymru, SA48 8PP
Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, Ceredigion, Cymru, SY25 6RX
Eglwys Sant Cybi, Llangybi, Ceredigion, Cymru, SA48 8NG
Eglwys Sant Bledrws, Betws Bledrws, Ceredigion, Cymru, SA48 8NX
Eglwys y Santes Fair, Llanfair Clydogau, Ceredigion, Cymru, SA48 8LJ
Eglwys Dewi Sant, Llan-y-crwys, Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA19 8LX
Eglwys Sant Llonio, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA39 9LT
Eglwys y Santes Gwenog, Llanwenog, Cwrtnewydd, Ceredigion, Cymru, SA40 9UT
Eglwys Sant Pedr, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9UD
Eglwys Sant Padrig, Pencarreg, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9QQ
Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7EL
Maestir Road, Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7JW
Eglwys Sant Gwynin, Llanwnnen, Ceredigion, Cymru, SA48 7LA
Eglwys Sant Iago, Cwmann, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA48 8DU
Mae modd cyrraedd Ystrad Fflur ar hyd ffordd y gwelir arwydd ar ei chyfer ym mhentref Pontrhydfendigaid, sydd ar y B4343, i’r gogledd o Dregaron.
Cod Post SY25 6ES
Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans SN74656577
Ystyr Ystrad Fflur yw dyffryn o flodau. Caiff yr enw Lladin, Strata Florida, ei ddefnyddio’n aml hefyd, ac ystyr yr enw hwnnw yw haenau o flodau. Yn unol â’r traddodiad gweledol Cristnogol, ac yn enwedig mewn cylchoedd Catholig, caiff purdeb y Forwyn Fair ei symboleiddio’n artistig gan ddarluniau o flodau.
Mae tu allan yr eglwys, sy’n blaen, yn hollol wahanol i’w thu mewn sy’n Sioraidd ac yn gain. Mae’r tu mewn yn cynnwys corff yr eglwys a’r gangell. Cafodd rhan isaf y mur gorllewinol sydd heb ffenestr ei hadeiladu gan ddefnyddio cerrig a gymerwyd o safle’r abaty. Mae 1759 wedi’i grafu ar un o’r cerrig. Mae’r bedyddfaen canoloesol crwn ynghyd â charreg y mae croes wedi’i harysgrifennu arni, o’r ddegfed ganrif efallai, yn bethau eraill sy’n ein hatgoffa am hanes cynharach y safle, a cheir nodweddion eraill sy’n nodweddiadol o’r cyfnod Sioraidd, yn enwedig y galeri orllewinol ar arni banelau, a ddarparwyd efallai ar gyfer côr neu fand y plwyf.
Mae pedair ffenestr liw lachar gan Powell’s o Whitefriars yn portreadu’r Swper Olaf a nifer o seintiau. Mae’r seintiau yn cynnwys Dewi Sant a’i fam, y Santes Non, yn ogystal â Bernard de Clairvaux, sy’n briodol iawn i’r safle hwn. Cafodd y ffenestri i gyd eu rhoi i’r eglwys yn yr 1960au gan Syr David James, sef sylfaenydd Odeon, y gadwyn o sinemâu, a anwyd yn lleol.
Mae’r fynwent yn cynnwys casgliad eclectig o feddau a chofebau, gan gynnwys un i Dafydd ap Gwilym a gaiff ei ystyried yn un o feirdd canoloesol gorau Cymru.
Mae beddargraff trist i’w weld ar garreg fedd teithiwr dienw a fu farw yn ystod storm yn yr ucheldiroedd ger Strata Florida, ac mae carreg fedd anarferol tu hwnt yn nodi’r fan lle cafodd coes chwith a rhan o forddwyd Henry Hughes eu claddu yn 1756. Allfudodd Henry Hughes i America wedyn, lle bu farw a lle cafodd ei gladdu.
Eglwysi eraill sydd gerllaw
Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur yw’r eglwys fwyaf deheuol o blith y rhai a restrir ar y wefan
Llefydd Llonydd ar gyfer eglwysi yng ngogledd Ceredigion.










