Llanddewi Brefi
Mae Eglwys Dewi Sant, nawddsant Cymru, yn Llanddewi Brefi yn un o’r safleoedd pwysicaf sy’n gysylltiedig â’r sant. Bu’r safle yn llewyrchus fel coleg i ganonau seciwlar tan y Diwygiad Protestannaidd, a’r eglwys sylweddol sydd mewn lleoliad canolog ar dir uwch yw nodwedd amlycaf y pentref.
Mae casgliad o gerrig arysgrifedig o ddechrau’r Oesoedd Canol, ynghyd â cherflun trawiadol o Dewi Sant o 1959 a ffenestr liw hardd gan Powell & Sons o 1962, yn golygu mai dyma un o safleoedd eglwysig pwysicaf gorllewin Cymru.
Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, Ceredigion, Cymru, SY25 6ES
Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig, Ceredigion, Cymru, SY25 6AA
Eglwys Sant Caron, Tregaron, Ceredigion, Cymru, SY25 6JL
Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal, Lledrod, Ceredigion, Cymru, SY23 4TS
Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Odwyn, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TZ
Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TR
Eglwys y Santes Lucia, Betws Leucu, Ceredigion, Cymru, SY25 6SW
Eglwys Sant Gartheli, Gartheli, Nantcwnlle, Llwyn-y-groes, Ceredigion, Cymru, SA48 8PP
Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, Ceredigion, Cymru, SY25 6RX
Eglwys Sant Cybi, Llangybi, Ceredigion, Cymru, SA48 8NG
Eglwys Sant Bledrws, Betws Bledrws, Ceredigion, Cymru, SA48 8NX
Eglwys y Santes Fair, Llanfair Clydogau, Ceredigion, Cymru, SA48 8LJ
Eglwys Dewi Sant, Llan-y-crwys, Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA19 8LX
Eglwys Sant Llonio, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA39 9LT
Eglwys y Santes Gwenog, Llanwenog, Cwrtnewydd, Ceredigion, Cymru, SA40 9UT
Eglwys Sant Pedr, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9UD
Eglwys Sant Padrig, Pencarreg, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9QQ
Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7EL
Maestir Road, Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7JW
Eglwys Sant Gwynin, Llanwnnen, Ceredigion, Cymru, SA48 7LA
Eglwys Sant Iago, Cwmann, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA48 8DU
Amserau gwasanaethau:
Y Sul cyntaf, yr ail Sul a’r pedwerydd Sul 9.30am
Y trydydd Sul 2.00pm
Cod Post SY25 6RX
Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans SN66395531
Mae’r eglwys yng nghanol y pentref.
Mae arhosfan bysiau gerllaw a lle i barcio car.
Mae yna le i barcio beiciau.
Mae yna lwybr serth o’r sgwâr i’r eglwys, ond mae’r llwybr o’r fynedfa ochr yn wastad.
Mae allwedd ar gael o siop y pentref sydd gerllaw (Siop Brefi) neu gan warden yr eglwys 01974 298402
Mae rhai hysbysfyrddau esboniadol yn yr eglwys, ynghyd â llawlyfr.
Llanddewi Brefi oedd safle’r synod eponymaidd – yn y flwyddyn 545, yn ôl rhai – lle bu’r sant, yn ôl Buchedd Dewi a ysgrifennwyd yn yr unfed ganrif ar ddeg, yn dadlau yn erbyn heresi Pelagiws. Tra oedd yn pregethu, cafodd y ddaear dano ei chodi’n wyrthiol, a oedd yn golygu bod ganddo lwyfan pregethu uwch lle gallai’r dorf a oedd wedi ymgynnull ei weld a’i glywed. Cadarnhaodd y digwyddiadau gwyrthiol yn y synod oruchafiaeth Dewi dros ei gyd-glerigwyr.
Mae’n bosibl bod yr eglwys mewn lleoliad uwch oherwydd ei bod ar safle gwyddgrug o’r Oes Efydd. Ymddengys fod hynny hefyd yn wir am Eglwys Sant Caron yn Nhregaron, nad yw ymhell iawn i ffwrdd. Mae afon Brefi yn llifo ar hyd un ochr i’r fynwent grom, a allai awgrymu pwysigrwydd crefyddol y safle cyn cyfnod Cristnogaeth hefyd.
Mae’r clas Celtaidd, sef brawdoliaeth o offeiriaid priod, a oedd yn llewyrchus yma yn tystio i bwysigrwydd parhaus Llanddewi Brefi. Yn 1287, cafodd y clas ei ad-drefnu gan yr Esgob Beck o Dyddewi yn goleg i ganonau seciwlar, a barodd tan y Diwygiad Protestannaidd. Yn ddiweddarach, yn ystod cyfnod Rhamantiaeth boblogaidd, denodd y lleoliad gwledig ac anghysbell hwn a’i hanes o ddefosiwn Cristnogol dysgedig, sylw’r Esgob Burgess o Dyddewi, ac yn 1809 bu’n ystyried sefydlu coleg hyfforddiant esgobaethol newydd yma. Fodd bynnag, cafodd tir ei roi’n rhodd yn Llanbedr Pont Steffan gerllaw, ac oherwydd hynny penderfynwyd sefydlu’r coleg yn y dref honno yn 1822. Mae’r coleg yn parhau’n rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae’r tŵr mawreddog uwchben y man lle mae corff yr eglwys a’r transept yn croesi ei gilydd yn dyddio’n ôl i’r bedwaredd ganrif ar ddeg, yn ôl pob tebyg. Mae gweddill yr adeilad yn dyddio’n ôl i ddyddiad amhendant yn yr Oesoedd Canol, ond cafodd ei addasu’n helaeth a chafodd rhywfaint ohono ei ddymchwel yn ystod y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. R. J. Withers, pensaer Eglwys Sant Pedr yn Llanbedr Pont Steffan, a oedd hefyd yn gysylltiedig â gwaith mewn sawl eglwys arall yn nyffryn Teifi, oedd yn gyfrifol am sefydlogi gwaith adfer yn 1873–4 ac yn 1885–6, a adawodd yr eglwys fel y mae heddiw i bob pwrpas.
Mae tu mewn yr eglwys yn aruchel ac yn ddeniadol o foel. Cafodd y corau eu rhoi gan y Frenhines Adelaide, sef gweddw’r brenin Gwilym IV, y cafodd y ddinas yn Awstralia ei henwi ar ei hôl. Mae’r pulpud pren a’r ddesg ddarllen gan gwmni A. D. R. Caroe yn eithaf modern (1953–4), a Withers oedd yn gyfrifol am reiliau a gwrthgefn yr allor. Mae’r bedyddfaen wythonglog yn dyddio o gyfnod y gwaith adnewyddu gan Withers, ac mae’n bosibl mai ei waith ef ydoedd; tybir bod y bedyddfaen hwnnw wedi cymryd lle’r bowlen fedyddio hirsgwar rydd o’r bedwaredd ganrif ar ddeg, sydd yn y gangell erbyn hyn. Caiff Dewi Sant ei goffáu y tu mewn i’r eglwys gan gerflun mawr ohono, o garreg nadd. Gwaith Frederick Mancini yw hwn, y cerflunydd o’r Eidal, ac fe’i gosodwyd yma yn 1959. Mae’r ffenestr wydr ddwyreiniol ac ynddi dri phaen o waith Powell & Sons o Whitefriars, ac mae’n dyddio o 1962. Mae’n dangos Dewi a Padarn bob ochr i Grist.
Mae’r eglwys yn gartref i gasgliad o chwech o gerrig arysgrifedig o’r cyfnod ôl-Rufeinig. Ynghyd ag enghreifftiau sydd i’w gweld yn Eglwys Sant Caron yn Nhregaron, cânt eu galw’n grŵp Teifi ac maent yn dangos dylanwad cynnar Cristnogaeth yn yr ardal hon. Caiff un ohonynt sy’n dal ac y mae testun a chroes wedi’u hendorri arni, sydd yng nghroesfan yr eglwys (lle mae’r tŵr), ei galw’n Ffon Dewi Sant.
Roedd Eglwys Dewi Sant yn un o hoff destunau’r artist John Piper pan oedd yn byw ym Mhontrhydfendigaid gerllaw. Mae nifer o’i ffotograffau yng ngofal Tate Britain, a gellir eu gweld ar wefan yr orielau.
Eglwysi eraill sydd gerllaw









