Dros fil o flynyddoedd o hanes
Mae hanes eglwysi rhan uchaf dyffryn Teifi yn ymestyn yn ôl i ddechrau’r Oesoedd Canol, pan na wyddys fawr ddim yn bendant am yr Eglwys a oedd yng Nghymru. Yn ôl Buchedd Dewi, a ysgrifennwyd ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg, yn Llanddewi Brefi yr oedd safle’r synod lle bu Dewi Sant yn pregethu a lle cafodd ei gadarnhau’n archesgob Cymru, ond dim ond cipolwg ar fywyd ac oes Dewi a ffigyrau crefyddol eraill y cyfnod a geir o’r gweithiau canoloesol hyn.
Dim ond ychydig o’r eglwysi y gellir eu dyddio i gyfnod cyn yr unfed ganrif ar ddeg, ond mae’r mynwentydd crwn, y cerrig arysgrifedig o ddechrau’r Oesoedd Canol a choed yw hynafol yn awgrymu bod hanes hir yn perthyn i ffydd yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin.
Roedd eglwysi canoloesol i’w cael yn rhan uchaf dyffryn Teifi, ac roedd abaty Sistersaidd Ystrad Fflur yn amlwg iawn yn yr ardal ac yn berchen ar nifer o’r eglwysi hynny. Mae tyrau canoloesol trawiadol yn Nhregaron a Llanddewi Brefi yn dyddio’n ôl i’r bedwaredd ganrif ar ddeg, ac mae’r tyrau yn Llanybydder a Llanwenog yn dyddio’n ôl i’r bymthegfed ganrif a dechrau’r unfed ganrif ar bymtheg.
Chwaraeodd yr ardal ran ganolog yn niwygiadau crefyddol y ddeunawfed ganrif. Cafodd y capel yn Abermeurig ei adeiladu am y tro cyntaf yn 1698, pan oedd yn rhaid i’r Presbyteriaid gwrdd yn gyfrinachol. Roedd y pregethwr Methodistaidd mawr, Daniel Rowland, yn giwrad yn Llangeitho o ganol y ddeunawfed ganrif ymlaen a byddai miloedd yn heidio yno i’w glywed yn pregethu.
Celf a phensaernïaeth
Roedd yr Eglwys Anglicanaidd yn llewyrchus unwaith yn rhagor yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan gafodd eglwysi eu codi, eu hailgodi, eu hadfer a’u dodrefnu. Mae rhai o’r eglwysi y parheir i’w defnyddio heddiw yn llawn o wydr lliw a cherfiadau o garreg a phren.
Mae 22 o eglwysi Ardal Offeiriadaeth Llanbedr Pont Steffan i’w gweld yn rhan uchaf dyffryn Teifi a’r cyffiniau, ac mae gan bob un ohonynt eu hanesion eu hunain i’w hadrodd. Mae gan rai ohonynt gysylltiadau â chapeli a safleoedd hanesyddol eraill.
Mae peth wmbredd o waith celf o bob math yn disgwyl amdanoch, o waith cerfwyr canoloesol anhysbys i waith penseiri o Loegr, allfudwr o wlad Belg ac artistiaid o Gymru ac Iwerddon a oedd yn trin gwydr lliw.
P’un a ydych yn cerdded, yn beicio neu’n teithio mewn car – dewch, da chi, i ymweld ag eglwysi ar hyd llwybr ffydd afon Teifi.












