Cerrig arysgrifedig
Mae’r dystiolaeth gynharaf o Gristnogaeth yng ngorllewin Cymru i’w gweld mewn arysgrifen ar gerrig. Mae croesau syml wedi’u marcio ar rai cerrig ac mae testun Lladin ac Ogam Gwyddelig wedi’i farcio ar rai eraill.
Yn Llanddewi Brefi y mae’r nifer fwyaf o gerrig cerfiedig Cristnogol Cynnar yng Ngheredigion. Maent yn dyddio o’r cyfnod rhwng oddeutu’r chweched ganrif a’r nawfed ganrif, a chroesau Lladin syml sydd wedi’u marcio ar y rhan fwyaf ohonynt. Mae arysgrifen Ladin ar ddwy ohonynt, ac mae’n amlwg eu bod yn nodi mannau claddu. Mae un ohonynt yn darparu’r dystiolaeth gynharaf ar gyfer Dewi Sant, oherwydd mae’n awgrymu bod Idnert fab Iacobus wedi’i ladd am iddo ysbeilio Dewi Sant. Gallai hynny fod yn cyfeirio at ryw fath o gyrch ar yr eglwys neu ar fan a oedd wedi’i chysegru iddo.
Saif carreg o’r ddegfed ganrif, a chroes wedi’i harysgrifennu arni, y tu allan i dalcen dwyreiniol yr eglwys bresennol yn Ystrad Fflur, ac mae marcwyr beddau o gyfnod tebyg neu ychydig yn hwyrach i’w gweld y tu allan i adfeilion transept de-orllewinol yr abaty. Cafodd rhagor o gerrig eu darganfod yn yr eglwysi yn Nhregaron, Llanbedr Pont Steffan a Llanwenog, er eu bod wedi’u colli neu wedi’u symud i amgueddfeydd ers hynny. Yn ogystal, mae cerrig y mae patrwm a thestun Lladin wedi’u cerfio arnynt i’w gweld o hyd yn yr eglwys yn Silian ger Llanbedr Pont Steffan (mae’r eglwys wedi cau erbyn hyn).







