Seintiau Celtaidd ar Lwybr Ffydd Afon Teifi
Mae tirwedd Ceredigion a Sir Gaerfyrddin yn frith o enwau lleoedd a ffynhonnau sanctaidd sydd wedi’u cysegru i seintiau lleol. Ymddengys fod 13 o’r 22 o eglwysi sydd ar Lwybr Ffydd Afon Teifi wedi’u cysegru i seintiau a allai gael eu hystyried yn seintiau Celtaidd; mae eraill wedi’u cysegru i seintiau Beiblaidd megis yr apostol Pedr a’r Forwyn Fair. Mae’r eglwys ym Mhencarreg wedi’i chysegru i Sant Padrig, a nawddsant Tregaron yw Sant Caron. Caron hefyd yw enw’r afon sy’n llifo heibio i’r eglwys, ac mae’n amlwg ei fod yn cael ei ystyried yn sant erbyn yr Oesoedd Canol diweddarach. Er hynny, gallai’r enw fod wedi bod yn ffordd arall o sillafu enw’r sant enwog o Iwerddon, Ciaran.
Gellir olrhain rhai o’r cysegriadau hyn i’r Oesoedd Canol, ac mae enwi Dewi Sant yn nawddsant Llanddewi Brefi yn rhagflaenu unrhyw gysylltiad rhwng Dewi a Thyddewi yn Sir Benfro. At hynny, gellir olrhain i’r Oesoedd Canol gysegru’r eglwysi yn Llangybi a Llanbadarn Odwyn i Sant Cybi a Sant Padarn, yn ogystal â chysegru Llan-y-crwys i Dewi. Mae delweddau o Dewi Sant ac o seintiau eraill i’w gweld yn rhai o eglwysi Llwybr Ffydd Afon Teifi.
Ni allwn fod yn siŵr bod cysegriadau presennol yr eglwysi fel yr oeddent yn ystod yr Oesoedd Canol, ac nid ydym yn gwybod dim am seintiau megis Gartheli, Bledrws a Gwenog, sef nawddseintiau eglwysi Gartheli, Betws Bledrws a Llanwenog.
Yn ôl awdur hynafiaethol o’r ddeunawfed ganrif, Sant Llwny oedd nawddsant yr eglwys yn Llanllwni, er y credir weithiau bod yr eglwys wedi’i chysegru i Llonio, neu Luc, sef yr enw a ddefnyddir heddiw. Cafodd enw’r lle ei gofnodi fel Llanllowni yn 1535, a gwyddys mai Llonio yw nawddsant Llandinam yn Sir Drefaldwyn.











