Maestir
Cafodd Eglwys y Santes Fair ym Maestir ei hadeiladu yn 1880 yn unol â dyluniad J. B. Harford o Falcondale gerllaw a Blaise Castle ger Bryste. Bu’r eglwys yn gwasanaethu ystâd Falcondale ac yn gapel anwes i Eglwys Sant Pedr yn Llanbedr Pont Steffan.
Mae dyluniad Romanésg yr adeilad yn blaen iawn, a cheir tair ffenestr liw gan Charles Eamer Kempe sy’n dyddio o 1906. Mae’r ffenestri yn portreadu’r apostolion Luc a Ioan, bob ochr i ddelwedd ganolog o Fair a’r baban Iesu.
Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, Ceredigion, Cymru, SY25 6ES
Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig, Ceredigion, Cymru, SY25 6AA
Eglwys Sant Caron, Tregaron, Ceredigion, Cymru, SY25 6JL
Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal, Lledrod, Ceredigion, Cymru, SY23 4TS
Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Odwyn, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TZ
Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TR
Eglwys y Santes Lucia, Betws Leucu, Ceredigion, Cymru, SY25 6SW
Eglwys Sant Gartheli, Gartheli, Nantcwnlle, Llwyn-y-groes, Ceredigion, Cymru, SA48 8PP
Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, Ceredigion, Cymru, SY25 6RX
Eglwys Sant Cybi, Llangybi, Ceredigion, Cymru, SA48 8NG
Eglwys Sant Bledrws, Betws Bledrws, Ceredigion, Cymru, SA48 8NX
Eglwys y Santes Fair, Llanfair Clydogau, Ceredigion, Cymru, SA48 8LJ
Eglwys Dewi Sant, Llan-y-crwys, Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA19 8LX
Eglwys Sant Llonio, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA39 9LT
Eglwys y Santes Gwenog, Llanwenog, Cwrtnewydd, Ceredigion, Cymru, SA40 9UT
Eglwys Sant Pedr, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9UD
Eglwys Sant Padrig, Pencarreg, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9QQ
Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7EL
Maestir Road, Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7JW
Eglwys Sant Gwynin, Llanwnnen, Ceredigion, Cymru, SA48 7LA
Eglwys Sant Iago, Cwmann, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA48 8DU
Cod Post SA48 7NU
Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans SN55374931
Mae’r bedyddfaen sgwâr yn ganoloesol, a gellir gweld symbolau o’r efengylwyr ar ei bedwar cornel. Yn Eglwys Sant Pedr yr oedd y bedyddfaen yn wreiddiol, ond cafodd ei symud oddi yno pan gafodd yr eglwys ei hailadeiladu ddegawd yn gynharach a’i osod yma. Mae dau o’r symbolau’n rhai Fictoraidd diweddarach—tybed allwch chi ddweud pa rai?
Tua’r un adeg, cafodd ysgol a oedd gerllaw ei rhoi gan y teulu Harford. Cafodd ei dymchwel a’i hailadeiladu yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Caerdydd yn 1981.
Eglwysi eraill sydd gerllaw









