Tregaron
Saif yr eglwys yng nghanol y dref, ar safle gwyddgrug o’r Oes Efydd efallai. Mae’r eglwys restredig Gradd II sydd wedi’i chysegru i Sant Caron yn amlwg iawn ar sgwâr y dref ac wrth ymyl llwybr hanesyddol y porthmyn i Loegr. Y tŵr gorllewinol mawreddog, sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg efallai ac sy’n un o dyrau mwyaf y sir, yw’r unig ran sy’n weddill o’r adeilad canoloesol, ar ôl cyfres o gyfnodau addasu ac ailadeiladu. Cafodd y gwaith addasu ac ailadeiladu diwethaf ei gwblhau yn 1878–9.
Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, Ceredigion, Cymru, SY25 6ES
Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig, Ceredigion, Cymru, SY25 6AA
Eglwys Sant Caron, Tregaron, Ceredigion, Cymru, SY25 6JL
Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal, Lledrod, Ceredigion, Cymru, SY23 4TS
Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Odwyn, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TZ
Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TR
Eglwys y Santes Lucia, Betws Leucu, Ceredigion, Cymru, SY25 6SW
Eglwys Sant Gartheli, Gartheli, Nantcwnlle, Llwyn-y-groes, Ceredigion, Cymru, SA48 8PP
Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, Ceredigion, Cymru, SY25 6RX
Eglwys Sant Cybi, Llangybi, Ceredigion, Cymru, SA48 8NG
Eglwys Sant Bledrws, Betws Bledrws, Ceredigion, Cymru, SA48 8NX
Eglwys y Santes Fair, Llanfair Clydogau, Ceredigion, Cymru, SA48 8LJ
Eglwys Dewi Sant, Llan-y-crwys, Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA19 8LX
Eglwys Sant Llonio, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA39 9LT
Eglwys y Santes Gwenog, Llanwenog, Cwrtnewydd, Ceredigion, Cymru, SA40 9UT
Eglwys Sant Pedr, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9UD
Eglwys Sant Padrig, Pencarreg, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9QQ
Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7EL
Maestir Road, Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7JW
Eglwys Sant Gwynin, Llanwnnen, Ceredigion, Cymru, SA48 7LA
Eglwys Sant Iago, Cwmann, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA48 8DU
Saif yr eglwys i’r de o’r sgwâr a’r arhosfan bysiau (mae yna wasanaeth bob dwy awr i Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan).
Cod Post SY25 6JL
Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans SN68005970
Ceisiadau am allwedd a llawlyfr i ymwelwyr:
Mrs Jennie Samuel 01974 298562
Gwasanaethau:
Dydd Sul 11am
Cyfarfod Undeb y Mamau: ffoniwch 01974 298562 i gael y manylion
Byddwch yn mynd i mewn i’r eglwys drwy lawr cyntaf y tŵr, sydd â nenfwd ar ffurf fowt faril. Mae’r eglwys yn cynnwys corff a changell sydd wedi’u huno dan yr un to ond a wahenir gan sgrin haearn o 1924. Mae’r bedyddfaen saithochrog yn un o sawl bedyddfaen canoloesol gwych sydd yn yr ardal.
Mae’r eglwys yn cynnwys sawl ffenestr liw, ac mae pob un ohonynt ar wahân i ddwy yn dyddio o’r ugeinfed ganrif. Mae yna bedair gan gwmni Shrigley & Hunt o Gaerhirfryn, ac mae’r ffenestr ddwyreiniol a osodwyd fel cofeb ryfel tua 1920 yn cynnwys Dewi Sant a Sant Siôr bob ochr i’r Crist Atgyfodedig. Mae un o’r ddwy ffenestr gan Celtic Studios yn gofeb ryfel arall a gysegrwyd er cof am dri gŵr a laddwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd ffenestr gan Janet Hardy ei hychwanegu yn 2005, a chafodd y ffenestr fwyaf diweddar ei chreu gan Catrin Davies a’i gosod yn 2022.
Mae diffyg ffynonellau cynnar dibynadwy’n golygu mai gwybodaeth dybiannol yn unig sydd gennym am weddillion Sant Caron. Ymddengys fod y dref wedi’i henwi ar ôl y sant, er mai Caron hefyd yw enw’r afon sy’n llifo heibio i’r eglwys. Mae’n amlwg mai’r gred erbyn diwedd yr Oesoedd Canol oedd mai Caron oedd nawddsant yr eglwys, a gallai’r enw fod wedi bod yn ffordd arall o sillafu enw’r sant enwog o Iwerddon, Ciaran.
Ymwelodd Syr Samuel Rush Meyrick ag Eglwys Sant Caron ar gyfer ei lyfr The History and Antiquities of the County of Cardigan (1810). Symudodd dair carreg arysgrifedig ôl-Rufeinig i’w gartref yn Goodrich Court, Swydd Henffordd, a honnir bod un ohonynt yn dal yno. Mae’r ddwy arall yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd. Mae cysylltiad agos rhwng y rhain a’r enghreifftiau y gellir eu gweld yn Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi ac mae’n bosibl eu bod wedi tarddu o safle cyfagos y gaer Rufeinig o’r enw Brenia yn Llanio.
Eglwysi eraill sydd gerllaw








