Llanwenog
Mae eglwys y Santes Gwenog yn edrych dros ddyffryn Teifi, ac mae’n un o eglwysi canoloesol gorau’r ardal ac yn adeilad rhestredig Gradd I. Ar wahân i’r tŵr gorllewinol ac iddo bedwar llawr, mae gan yr eglwys gorff a changell sydd dan yr un to a chapel deheuol.
Nodwedd amlycaf yr adeilad yw’r tŵr mawreddog o’r bymthegfed ganrif, ar dir sydd ychydig yn uwch na chorff yr eglwys. Cafodd y tŵr ei adeiladu gan Syr Rhys ap Thomas, a’r sôn oedd ei fod yn arwydd o ddiolch am fuddugoliaeth Harri VII ym Mrwydr Bosworth yr oedd Syr Rhys ap Thomas wedi bod yn ymladd ynddi.
Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, Ceredigion, Cymru, SY25 6ES
Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig, Ceredigion, Cymru, SY25 6AA
Eglwys Sant Caron, Tregaron, Ceredigion, Cymru, SY25 6JL
Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal, Lledrod, Ceredigion, Cymru, SY23 4TS
Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Odwyn, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TZ
Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TR
Eglwys y Santes Lucia, Betws Leucu, Ceredigion, Cymru, SY25 6SW
Eglwys Sant Gartheli, Gartheli, Nantcwnlle, Llwyn-y-groes, Ceredigion, Cymru, SA48 8PP
Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, Ceredigion, Cymru, SY25 6RX
Eglwys Sant Cybi, Llangybi, Ceredigion, Cymru, SA48 8NG
Eglwys Sant Bledrws, Betws Bledrws, Ceredigion, Cymru, SA48 8NX
Eglwys y Santes Fair, Llanfair Clydogau, Ceredigion, Cymru, SA48 8LJ
Eglwys Dewi Sant, Llan-y-crwys, Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA19 8LX
Eglwys Sant Llonio, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA39 9LT
Eglwys y Santes Gwenog, Llanwenog, Cwrtnewydd, Ceredigion, Cymru, SA40 9UT
Eglwys Sant Pedr, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9UD
Eglwys Sant Padrig, Pencarreg, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9QQ
Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7EL
Maestir Road, Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7JW
Eglwys Sant Gwynin, Llanwnnen, Ceredigion, Cymru, SA48 7LA
Eglwys Sant Iago, Cwmann, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA48 8DU
Mae’r eglwys oddi ar yr A475 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Chastellnewydd Emlyn. Mae’r eglwys ar agor bob amser i ymwelwyr.
Cod Post SA40 9UT
Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans SN49394553
Ni wyddys dim am y Santes Gwenog (neu Gwennog), er bod ei henw i’w weld mewn calendr seintiau cynnar o’r unfed ganrif ar bymtheg, sy’n nodi mai 3 Ionawr yw ei dydd gŵyl. Caiff ei phortreadu yn ffenestr liw orllewinol y tŵr sy’n dyddio’n ôl i oddeutu 1900.
I weld tu mewn mawreddog yr eglwys, rhaid i chi fynd drwy’r drws gorllewinol sydd yn y tŵr ac i lawr y grisiau i gorff yr eglwys, lle gallwch weld yn glir y nenfwd o’r bymthegfed ganrif ar ffurf fowt faril. Mae cwpan canoloesol ym mur y fynedfa, a roddwyd yn ôl i’r eglwys ar ôl iddo gael ei ddefnyddio am flynyddoedd yng ngefail y gof.
Mae’r bedyddfaen crwn godidog o galchfaen i’w weld yng nghornel dde-orllewinol corff yr eglwys. Credir ei fod yn dyddio’n ôl i’r ddeuddegfed ganrif ac mae wedi’i addurno â deuddeg wyneb tebyg i fygydau, sy’n cynrychioli deuddeg disgybl yr Iesu.
Mae olion murluniau cynnar i’w gweld yng nghorff yr eglwys, yn ogystal â dau banel wedi’u paentio. Mae un ohonynt yn cynnwys y gorchmynion ac mae’r llall yn cynnwys rhan o’r Credo yn Gymraeg.
Mae Eglwys y Santes Gwenog wedi’i bendithio â pheth wmbredd o gerfiadau gwych o bren, gan Joseph Reubens o Bruges, sef ffoadur y bu’n rhaid iddo symud o’i gartref ar ôl i’r Almaen oresgyn Gwlad Belg yn 1914 yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Cafodd gynnig cartref gan Davies-Evans yn Highmead gerllaw, a thra oedd yn aros yno cyflawnodd sawl comisiwn i’r eglwys, a oedd yn cynnwys croglen, darllenfa ac addurnau ar gyfer talcenni’r corau, y mae pob un ohonynt yn nodedig yn eu rhinwedd eu hunain.
Mae’n amlwg bod y groglen wedi’i hysbrydoli gan waith o ddiwedd yr Oesoedd Canol, ac mae wedi’i haddurno â threswaith cywrain, anghonfensiynol. Ar ei thop y mae heuladdurn canolog mawr a phedwar o rai llai, sydd yn ôl pob tebyg yn cynrychioli Crist a’r pedwar efengylwr. Islaw’r heuladdurn canolog y mae colomen sydd wedi’i cherfio yn gywrain ac sy’n cynrychioli’r Ysbryd Sanctaidd, llythrennau cyntaf Reubens a Davies-Evans, a’r dyddiad: 1915.
Un rhan yn unig o gofeb Reubens yn Llanwenog i gyd-ddioddefaint dwy genedl fach – sef Gwlad Belg a Chymru – yn ystod y Rhyfel Mawr yw’r groglen. Cafodd 34 o addurnau ar gyfer talcenni’r corau, a ddyluniwyd gan Mary Davies-Evans ac sy’n cynnwys symbolau niferus o hanes lleol, seintiau a’r Rhyfel, eu cerfio gan Reubens rhwng 1915 ac 1919.
Yn 1922, cwblhaodd Reubens ddarllenfa ac iddi ddyluniad anarferol ar gyfer yr eglwys. Yn ôl y sôn, roedd Reubens yn teimlo bod y dyluniad confensiynol a oedd yn cynnwys eryr yn ei atgoffa am y symbol o’r Almaen Ymerodrol a oedd wedi meddiannu ei famwlad. Felly, fel arwydd o ddiolch i’r wlad yr oedd yn alltud ynddi, dewisodd ddyluniad a oedd yn cynnwys draig, sy’n symbol o Gymru.
Yn ogystal, cerfiodd Reubens gofeb ryfel ar ffurf plac pren ar gyfer ysgol y pentref, a oedd yn cynnwys delwau o’r pum cyn-ddisgybl a laddwyd yn ystod Rhyfel Mawr 1914-19. Yn ogystal â choffáu eu haberth nhw, y bwriad oedd i’r dyddiadau fod yn arwydd o ddiolch am heddwch Cytundeb Versailles. Cafodd y plac ei osod yn wreiddiol yn ysgol y pentref, ond ar ôl i’r ysgol gau cafodd y sgrin ei symud i’r eglwys a’i hailgodi yn y capel deheuol.
Cyfraniad olaf Reubens i du mewn yr eglwys hyfryd hon oedd ei gofeb wedi’i cherfio o bren, a godwyd yn 1931, er cof am y sawl a’i croesawodd yn ystod y Rhyfel a gwas ffyddlon.
Mae’r fynwent grom yn cynnig golygfeydd godidog ac yn cynnwys copi o garreg Ogam bwysig o ddechrau’r Oesoedd Canol (ffurf ar ysgrifennu a oedd yn tarddu o Iwerddon), a ddarganfuwyd yn lleol. Ceir sawl enghraifft wych hefyd o gerrig beddau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Eglwysi eraill sydd gerllaw








