Joseph Reubens
Ffoadur o Wlad Belg adeg y Rhyfel Byd Cyntaf, a’r cerfiadau a adawodd yn waddol yn Llanwenog
Ar ôl i’r Almaen oresgyn Gwlad Belg yn 1914, daeth nifer fawr o ffoaduriaid o Wlad Belg i Brydain gan gyfoethogi diwylliant y wlad a’u croesawodd. Efallai mai’r enghraifft enwocaf o hynny yw Hercule Poirot, y ditectif ffuglennol a grëwyd gan Agatha Christie.
Un o’r ffoaduriaid go iawn oedd Joseph Reubens, artist dawnus o Wlad Belg a fu’n gweithio yn Highmead gerllaw dan nawdd y teulu Davies-Evans. I ddiolch am y lloches a ganfu yn Sir Gaerfyrddin, creodd Reubens gyfres o gerfiadau gwych yn eglwys Sant Gwenog.
Ymhlith y dodrefn a greodd y mae’r pulpud, croglen a darllenfa yn ogystal ag addurnau ar gyfer talcenni’r corau, y mae pob un ohonynt yn darlunio pwnc sydd o ddiddordeb eglwysig, lleol neu genedlaethol, gan gynnwys y Rhyfel Mawr.
Mae dioddefaint y Belgiaid yn ystod goresgyniad yr Almaenwyr adeg y rhyfel yn amlwg yn y modd y mae Reubens wedi dylunio’r ddarllenfa. Ymddengys fod y dyluniad traddodiadol ar gyfer darllenfa, sef eryr yn ymestyn ei adenydd, yn atgoffa Reubens am yr eryr adeiniog a oedd yn symbol o’r Almaen Ymerodrol. Felly, i ddiolch am y lloches a gynigiwyd gan y Cymry, cerfiodd ddraig sy’n symbol o’u cenedl nhw.
Unwaith eto, i adlewyrchu’r dioddefaint a’r golled a brofwyd yn ystod y Rhyfel Mawr, cerfiodd Reubens gofeb i gyn-ddisgyblion ysgol y pentref a gollodd eu bywydau yn y gwrthdaro. Roedd y gofeb yn cynnwys delwau o bawb a fu farw, a chafodd ei gosod yn wreiddiol yn yr ysgol. Fodd bynnag, yn dilyn cau’r ysgol, mae’r gofeb i’w gweld erbyn hyn yn yr eglwys.
Mae disgrifiad llawn o’r cerfiadau i’w weld yn y llawlyfr darluniadol ardderchog sydd ar gael yn yr eglwys.
Ffilm fer gan y BBC am waith Joseph Reubens
Gwaith Joseph Reubens ar Gronfa Ddata Delweddu’r Beibl yng Nghymru
Straeon am ffoaduriaid o Wlad Belg yn y DU yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf
Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, Ceredigion, Cymru, SY25 6ES
Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig, Ceredigion, Cymru, SY25 6AA
Eglwys Sant Caron, Tregaron, Ceredigion, Cymru, SY25 6JL
Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal, Lledrod, Ceredigion, Cymru, SY23 4TS
Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Odwyn, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TZ
Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TR
Eglwys y Santes Lucia, Betws Leucu, Ceredigion, Cymru, SY25 6SW
Eglwys Sant Gartheli, Gartheli, Nantcwnlle, Llwyn-y-groes, Ceredigion, Cymru, SA48 8PP
Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, Ceredigion, Cymru, SY25 6RX
Eglwys Sant Cybi, Llangybi, Ceredigion, Cymru, SA48 8NG
Eglwys Sant Bledrws, Betws Bledrws, Ceredigion, Cymru, SA48 8NX
Eglwys y Santes Fair, Llanfair Clydogau, Ceredigion, Cymru, SA48 8LJ
Eglwys Dewi Sant, Llan-y-crwys, Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA19 8LX
Eglwys Sant Llonio, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA39 9LT
Eglwys y Santes Gwenog, Llanwenog, Cwrtnewydd, Ceredigion, Cymru, SA40 9UT
Eglwys Sant Pedr, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9UD
Eglwys Sant Padrig, Pencarreg, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9QQ
Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7EL
Maestir Road, Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7JW
Eglwys Sant Gwynin, Llanwnnen, Ceredigion, Cymru, SA48 7LA
Eglwys Sant Iago, Cwmann, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA48 8DU
Mae’r eglwys oddi ar yr A475 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Chastellnewydd Emlyn. Mae’r eglwys ar agor bob amser i ymwelwyr.
Cod Post SA40 9UT
Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans SN49394553
Mae’n amlwg bod y groglen wedi’i hysbrydoli gan waith o ddiwedd yr Oesoedd Canol, ac mae wedi’i haddurno â threswaith cywrain, anghonfensiynol. Ar ei thop y mae heuladdurn canolog mawr a phedwar o rai llai, sydd yn ôl pob tebyg yn cynrychioli Crist a’r pedwar efengylwr. Islaw’r heuladdurn canolog y mae colomen sydd wedi’i cherfio yn gywrain ac sy’n cynrychioli’r Ysbryd Sanctaidd, llythrennau cyntaf Reubens a Davies-Evans, a’r dyddiad: 1915.
Un rhan yn unig o gofeb Reubens yn Llanwenog i gyd-ddioddefaint dwy genedl fach – sef Gwlad Belg a Chymru – yn ystod y Rhyfel Mawr yw’r groglen. Cafodd 34 o addurnau ar gyfer talcenni’r corau, a ddyluniwyd gan Mary Davies-Evans ac sy’n cynnwys symbolau niferus o hanes lleol, seintiau a’r Rhyfel, eu cerfio gan Reubens rhwng 1915 ac 1919.
Yn 1922, cwblhaodd Reubens ddarllenfa ac iddi ddyluniad anarferol ar gyfer yr eglwys.
Eglwysi eraill sydd gerllaw








