Ystrad Meurig
Efallai fod cysegriad yr eglwys yn Ystrad Meurig i Sant Ioan Fedyddiwr yn dyddio o’r adeg pan gafodd yr eglwys ei chaffael gan yr Ysbytywyr yn 1158. Mae’r safle crwm yn awgrymu bod gan yr eglwys hanes hirach sy’n dyddio’n ôl i ddechrau’r cyfnod canoloesol.
Erbyn diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd yr eglwys yn adfail. Erbyn hyn, dyma un o’r ychydig eglwysi yn yr ardal sydd wedi’i dylunio mewn arddull Celf a Chrefft (gweler hefyd Eglwys yr Holl Saint, Cellan). Cafodd ei hadeiladu yn 1897–9 gan Harold Hughes o Fangor ar sylfeini eglwys gynharach.
Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, Ceredigion, Cymru, SY25 6ES
Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig, Ceredigion, Cymru, SY25 6AA
Eglwys Sant Caron, Tregaron, Ceredigion, Cymru, SY25 6JL
Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal, Lledrod, Ceredigion, Cymru, SY23 4TS
Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Odwyn, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TZ
Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TR
Eglwys y Santes Lucia, Betws Leucu, Ceredigion, Cymru, SY25 6SW
Eglwys Sant Gartheli, Gartheli, Nantcwnlle, Llwyn-y-groes, Ceredigion, Cymru, SA48 8PP
Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, Ceredigion, Cymru, SY25 6RX
Eglwys Sant Cybi, Llangybi, Ceredigion, Cymru, SA48 8NG
Eglwys Sant Bledrws, Betws Bledrws, Ceredigion, Cymru, SA48 8NX
Eglwys y Santes Fair, Llanfair Clydogau, Ceredigion, Cymru, SA48 8LJ
Eglwys Dewi Sant, Llan-y-crwys, Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA19 8LX
Eglwys Sant Llonio, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA39 9LT
Eglwys y Santes Gwenog, Llanwenog, Cwrtnewydd, Ceredigion, Cymru, SA40 9UT
Eglwys Sant Pedr, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9UD
Eglwys Sant Padrig, Pencarreg, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9QQ
Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7EL
Maestir Road, Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7JW
Eglwys Sant Gwynin, Llanwnnen, Ceredigion, Cymru, SA48 7LA
Eglwys Sant Iago, Cwmann, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA48 8DU
Saif yr eglwys ychydig filltiroedd i’r gorllewin o Bontrhydfendigaid ac adfeilion Abaty Sistersaidd Ystrad Fflur ar y B4340 i Aberystwyth ac yng nghanol y pentref bach.
Cod Post SY25 6AA
Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans SN70396766
Mae tu allan yr eglwys, sy’n hyfryd o syml, yn awgrymu hyfrydwch tebyg ei thu mewn. Cafodd y ffenestr liw ddwyreiniol ac ynddi bum paen ei chreu gan J. Wippell o Gaerwysg, ac mae’n dyddio o 1963. Mae’n portreadu Crist fel Iachawdwr y Byd gyda golygfeydd o’r Beibl, ac mae’n cynnwys delwedd o ysgolfeistr yn cyfarch y bechgyn a oedd yn ddisgyblion iddo. John Jones (1842–1915) oedd hwn, a drefnodd fod yr eglwys yn cael ei hadeiladu ac a oedd yn offeiriad ac yn ysgolfeistr am 46 o flynyddoedd.
Cafodd yr hen ysgol ramadeg wrth ymyl yr eglwys ei sefydlu yn 1735 gan Edward Richards, a daeth yn enwog yn fuan am ansawdd ei haddysg glasurol. Roedd yr ysgol yn y fynwent, a throdd yn Goleg Sant Ioan yn ddiweddarach cyn iddi gau yn 1973. Erbyn hyn, mae’r adeilad rhestredig Gradd ll yn adnodd i’r gymuned.
Eglwysi eraill sydd gerllaw








