Llangeitho_DSC9855-71A
previous arrow
next arrow

Llangeitho

Cafodd Eglwys Sant Ceitho ei hailadeiladu yn 1898, a chymerodd le adeilad Sioraidd o 1819–21. Honnir bod yr adeilad canoloesol a ragflaenai’r adeilad Sioraidd yn cynnwys croglen ddwbl.

Mae’r tu mewn yn cynnwys cofeb addurnedig i rieni Daniel Rowland, y pregethwr Methodistaidd o fri, ac mae Daniel Rowland wedi’i gladdu yn yr eglwys hefyd. Mae gwydr lliw hardd o’r ugeinfed ganrif yn llenwi rhai o’r ffenestri.


Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, Ceredigion, Cymru, SY25 6ES

Gwybodaeth

Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig, Ceredigion, Cymru, SY25 6AA

Gwybodaeth

Eglwys Sant Caron, Tregaron, Ceredigion, Cymru, SY25 6JL

Gwybodaeth

Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal, Lledrod, Ceredigion, Cymru, SY23 4TS

Gwybodaeth

Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Odwyn, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TZ

Gwybodaeth

Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TR

Gwybodaeth

Eglwys y Santes Lucia, Betws Leucu, Ceredigion, Cymru, SY25 6SW

Gwybodaeth

Eglwys Sant Gartheli, Gartheli, Nantcwnlle, Llwyn-y-groes, Ceredigion, Cymru, SA48 8PP

Gwybodaeth

Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, Ceredigion, Cymru, SY25 6RX

Gwybodaeth

Eglwys Sant Cybi, Llangybi, Ceredigion, Cymru, SA48 8NG

Gwybodaeth

Eglwys Sant Bledrws, Betws Bledrws, Ceredigion, Cymru, SA48 8NX

Gwybodaeth

Eglwys y Santes Fair, Llanfair Clydogau, Ceredigion, Cymru, SA48 8LJ

Gwybodaeth

Eglwys yr Holl Saint, Cellan, Ceredigion, Cymru, SA48 8HZGwybodaeth

Eglwys Dewi Sant, Llan-y-crwys, Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA19 8LX

Gwybodaeth

Eglwys Sant Llonio, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA39 9LT

Gwybodaeth

Eglwys y Santes Gwenog, Llanwenog, Cwrtnewydd, Ceredigion, Cymru, SA40 9UT

Gwybodaeth

Eglwys Sant Pedr, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9UD

Gwybodaeth

Eglwys Sant Padrig, Pencarreg, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9QQ

Gwybodaeth

Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7EL

Gwybodaeth

Maestir Road, Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7JW

Gwybodaeth

Eglwys Sant Gwynin, Llanwnnen, Ceredigion, Cymru, SA48 7LA

Gwybodaeth

Eglwys Sant Iago, Cwmann, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA48 8DU

Gwybodaeth



Mae’r eglwys yng nghanol y pentref.
Cod Post SY25 6TR
Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans SN62056009
Lle parcio ar y stryd


Mae Sant Ceitho wedi’i enwi mewn calendr o ddiwedd yr Oesoedd Canol (sy’n rhestr o ddyddiau gŵyl seintiau) yn un o bum brawd, yr oedd pob un ohonynt yn seintiau ac y mae pentref Llanpumsaint yn Sir Gaerfyrddin wedi’i enwi ar eu hôl. Mae rhagor o lên gwerin am y brodyr wedi goroesi, ond ni wyddys dim byd mwy am Ceitho.

Caiff Ceitho ei bortreadu yn y ffenestr ddwyreiniol gan A. K. Nicholson o 1930. Fe’i dangosir yn pregethu i’r gymuned leol mewn golygfa ar waelod y ffenestr, ac mewn golygfa arall gwelir Dewi Sant yn bendithio ffigwr brenhinol sy’n penlinio, sef y Brenin Arthur efallai. Rhyngddynt y mae’r Crist Atgyfodedig gyda golygfa o’r Swper yn Emaus. Mae enghreifftiau eraill o wydr lliw yn yr eglwys o waith Celtic Studios (1951) a Powell & Sons (1963), a chafodd ffenestr gynharach ei chreu’n ôl pob tebyg gan Burlison & Grylls.

Mae pentref Llangeitho yn enwog am ei gysylltiad â Daniel Rowland a fu, ynghyd â Howell Harris, yn hyrwyddo’r Diwygiad Methodistaidd mawr yng Nghymru. Cafodd Rowland ei eni’n lleol yn 1713, yn fab i ddeiliad bywoliaeth Nantcwnlle a Llangeitho. Cafodd Rowland ei ordeinio yn 1735, a bu’n gwasanaethu fel ciwrad yn Eglwys Sant Ceitho. Yn fuan, daeth i gredu’n gryf mai ei genhadaeth oedd pregethu ar hyd a lled y wlad. Fodd bynnag, am resymau nad ydynt yn hysbys, cafodd ei giwradiaeth ei chymryd oddi arno yn 1763 ac ni chafodd ei ailbenodi er i’w blwyfolion bledio dros hynny. Yn hytrach, sefydlodd ei ‘Eglwys Newydd’ ei hun yn Llangeitho, lle bu’n efengylu tan ei farwolaeth yn 1790.


Roedd pregethu carismatig Rowland yn denu torfeydd o filoedd i Langeitho, a arweiniodd at droi’r pentref yn ganolfan Methodistiaeth Gymreig ac at leihau dylanwad Eglwys Sant Ceitho i’r fath raddau nes na chafodd y Cymun Bendigaid ei gynnal yno am bron hanner canrif. Cafodd Rowland ei gladdu ym mynwent Eglwys Sant Ceitho, ac mae wedi’i goffáu â cherflun gwyn o farmor a godwyd yng nghwrt blaen ei gapel yn 1883.

Daniel Rowland a ‘Neidwyr’ Llangeitho


Eglwysi eraill sydd gerllaw