Llangeitho_DSC7090-71A
previous arrow
next arrow

Daniel Rowland a ‘Neidwyr’ Llangeitho

Roedd pregethu carismatig Rowland yn denu pobl yn eu miloedd i Langeitho

Mae Crynwyr a Siglwyr yn llysenwau enwog ar ddau enwad Iseleglwysig neilltuol.

Roedd Llangeitho yn gartref i drydydd grŵp, sef y Neidwyr, sef llysenw a roddwyd i ddilynwyr yr efengylwr Methodistaidd Daniel Rowland a diwygiad crefyddol 1762–4. Byddai dynion a menywod, a fyddai’n tyrru i glywed Rowland yn pregethu, yn ‘neidio mewn llawenydd’ wrth addoli, a pharhaodd yr arfer hwnnw ymhell i mewn i’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Roedd Daniel Rowland yn efengylwr Methodistaidd cynnar, ac roedd cyfnod ei offeiriadaeth a’i weinidogaeth weithredol (1735–90) yn gyfnod hir a dadleuol. Cafodd ei benodi’n giwrad Anglicanaidd yn Llangeitho a sefydlwyd gan Rowland yn ganolfan Methodistiaeth Galfinaidd a fyddai’n denu cynulleidfaoedd o dros fil o bobl yn aml.

Roedd ei bregethu medrus yn elfen bwysig o ddiwygiad crefyddol Methodistaidd y ddeunawfed ganrif, gyda’i gydweithwyr John Wesley a George Whitefield yn Lloegr a Howell Harris a William Williams yng Nghymru.

Arweiniodd ei weithredoedd at rwyg rhyngddo ef ac awdurdodau’r eglwys, ond erbyn diwedd ei oes roeddent wedi cymodi i bob pwrpas a chafodd ei gladdu ym mynwent yr eglwys. Cafodd yr eglwys ei hymestyn wedyn, fodd bynnag, a oedd yn golygu bod ei fedd yn rhan o’r eglwys, a gellir ei weld yno erbyn hyn. Sefydlodd Rowland ei ‘Eglwys Newydd’ ei hun yn Llangeitho, a chafodd cerflun gwyn o farmor gan Edward Griffith ei osod yn 1883 yng nghwrt blaen ei gapel.

Eglwys Llangeitho

Daneil Rowland yn Y Bywgraffiadur Cymreig


Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, Ceredigion, Cymru, SY25 6ES

Gwybodaeth

Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig, Ceredigion, Cymru, SY25 6AA

Gwybodaeth

Eglwys Sant Caron, Tregaron, Ceredigion, Cymru, SY25 6JL

Gwybodaeth

Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal, Lledrod, Ceredigion, Cymru, SY23 4TS

Gwybodaeth

Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Odwyn, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TZ

Gwybodaeth

Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TR

Gwybodaeth

Eglwys y Santes Lucia, Betws Leucu, Ceredigion, Cymru, SY25 6SW

Gwybodaeth

Eglwys Sant Gartheli, Gartheli, Nantcwnlle, Llwyn-y-groes, Ceredigion, Cymru, SA48 8PP

Gwybodaeth

Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, Ceredigion, Cymru, SY25 6RX

Gwybodaeth

Eglwys Sant Cybi, Llangybi, Ceredigion, Cymru, SA48 8NG

Gwybodaeth

Eglwys Sant Bledrws, Betws Bledrws, Ceredigion, Cymru, SA48 8NX

Gwybodaeth

Eglwys y Santes Fair, Llanfair Clydogau, Ceredigion, Cymru, SA48 8LJ

Gwybodaeth

Eglwys yr Holl Saint, Cellan, Ceredigion, Cymru, SA48 8HZGwybodaeth

Eglwys Dewi Sant, Llan-y-crwys, Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA19 8LX

Gwybodaeth

Eglwys Sant Llonio, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA39 9LT

Gwybodaeth

Eglwys y Santes Gwenog, Llanwenog, Cwrtnewydd, Ceredigion, Cymru, SA40 9UT

Gwybodaeth

Eglwys Sant Pedr, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9UD

Gwybodaeth

Eglwys Sant Padrig, Pencarreg, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9QQ

Gwybodaeth

Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7EL

Gwybodaeth

Maestir Road, Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7JW

Gwybodaeth

Eglwys Sant Gwynin, Llanwnnen, Ceredigion, Cymru, SA48 7LA

Gwybodaeth

Eglwys Sant Iago, Cwmann, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA48 8DU

Gwybodaeth


Mae’r eglwys yng nghanol y pentref.
Cod Post SY25 6TR
Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans SN62056009
Lle parcio ar y stryd


Eglwysi eraill sydd gerllaw