Llangybi
Mae eglwys Llangybi yn adeilad bach a dymunol o syml. Nid oes dim sydd i’w weld yn dyddio’n ôl ymhellach na’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, er bod tystiolaeth o’i chysegriad i Sant Cybi i’w gweld yn y drydedd ganrif ar ddeg.
Mae’r tu mewn yn olau, mae yno bob cyfleuster ac mae’n cynnwys corau caeëdig. Er y gallai’r bedyddfaen sgwâr o garreg fod yn un canoloesol, mae wedi cael ei ailwampio.
Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, Ceredigion, Cymru, SY25 6ES
Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig, Ceredigion, Cymru, SY25 6AA
Eglwys Sant Caron, Tregaron, Ceredigion, Cymru, SY25 6JL
Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal, Lledrod, Ceredigion, Cymru, SY23 4TS
Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Odwyn, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TZ
Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TR
Eglwys y Santes Lucia, Betws Leucu, Ceredigion, Cymru, SY25 6SW
Eglwys Sant Gartheli, Gartheli, Nantcwnlle, Llwyn-y-groes, Ceredigion, Cymru, SA48 8PP
Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, Ceredigion, Cymru, SY25 6RX
Eglwys Sant Cybi, Llangybi, Ceredigion, Cymru, SA48 8NG
Eglwys Sant Bledrws, Betws Bledrws, Ceredigion, Cymru, SA48 8NX
Eglwys y Santes Fair, Llanfair Clydogau, Ceredigion, Cymru, SA48 8LJ
Eglwys Dewi Sant, Llan-y-crwys, Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA19 8LX
Eglwys Sant Llonio, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA39 9LT
Eglwys y Santes Gwenog, Llanwenog, Cwrtnewydd, Ceredigion, Cymru, SA40 9UT
Eglwys Sant Pedr, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9UD
Eglwys Sant Padrig, Pencarreg, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9QQ
Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7EL
Maestir Road, Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7JW
Eglwys Sant Gwynin, Llanwnnen, Ceredigion, Cymru, SA48 7LA
Eglwys Sant Iago, Cwmann, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA48 8DU
Mae’r eglwys ar yr A485 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Thregaron, yng nghanol y pentref.
Cod Post SA48 8NG
Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans SN60855317
Mae’r ddogfen Ladin Vita Sancti Kebii (Buchedd Sant Cybi) yn bodoli o hyd, a gallai fod wedi’i hysgrifennu ym mynachlog Llanbadarn Fawr ddiwedd yr unfed ganrif ar ddeg neu ddechrau’r ddeuddegfed ganrif. Mae hanes Cybi yn sôn am ei enedigaeth yng Nghernyw ac am ei siwrnai i Rufain, ac am y deugain mlynedd a dreuliodd wedyn gyda Sant Hilary yn Poitiers. Yna, dychwelodd Cybi i Gernyw a theithiodd ar draws Cymru ac Iwerddon cyn cyrraedd Caergybi. Parhaodd eglwys Cybi yng Nghaergybi i fod yn safle colegaidd enwog drwy gydol yr Oesoedd Canol, ac mae’r ffynnon sanctaidd a gysegrwyd iddo yn Llangybi i’w gweld o hyd ger yr eglwys. Mae’n un o nifer o ffynhonnau sanctaidd a gysegrwyd iddo.
Cafodd y ffenestr ddwyreiniol sy’n darlunio’r Geni, y Croeshoelio a’r Esgyniad ei chreu gan Thomas Ward ac mae’n dyddio o 1854. Cafodd ei gosod yn wreiddiol yn yr eglwys ym Metws Bledrws, ond cafodd ei symud yma yn 1886.
Eglwysi eraill sydd gerllaw







