YstradFflur_DSC9766-71A
previous arrow
next arrow

Celf, hanes a ffydd

Mae eglwysi ar hyd Llwybr Ffydd Afon Teifi yn llawn o bethau diddorol. Mae cerrig beddau, cofebau a chofgolofnau yn coffáu’r sawl a fu’n byw yn yr ardal ac a fu’n addoli yn yr eglwysi hyn.

O dystiolaeth gynnar o bwysigrwydd Dewi Sant i’r ffenestr fawr olaf gan Wilhelmina Geddes, yr artist Gwyddelig o’r ugeinfed ganrif, beth tybed y byddwch chi’n dod ar ei draws yn ystod eich taith?


Mae cerrig hynafol sydd wedi’u cerfio a choed yw sy’n hŷn na’r adeiladau yn gwreiddio’r lleoedd hyn mewn hanes dwfn. O bregethau Dewi Sant i bregethau Daniel Rowland, daw stori i’r amlwg am ffydd y genedl, sy’n tarddu o dirwedd grefyddol unigryw Cymru.