Pencarreg
Mae Eglwys Sant Padrig yn eglwys ganoloesol a gafodd ei hadfer yn 1878–9 gan R. J. Withers. Mae’r tu mewn yn cynnwys sawl nodwedd ddiddorol, a’r un fwyaf diddorol yw bedyddfaen o garreg o’r ddeuddegfed ganrif, ac arno ben â mwgwd cerfiedig ym mhob cornel. Mae Byrddau Gorchmynion o sinc, sydd wedi’u paentio, yn addurno pob ochr i fwa’r gangell. Cafodd y ffenestr liw ddwyreiniol, sy’n dyddio o 1922, ei chreu gan Heaton, Butler & Bayne.
Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, Ceredigion, Cymru, SY25 6ES
Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig, Ceredigion, Cymru, SY25 6AA
Eglwys Sant Caron, Tregaron, Ceredigion, Cymru, SY25 6JL
Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal, Lledrod, Ceredigion, Cymru, SY23 4TS
Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Odwyn, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TZ
Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TR
Eglwys y Santes Lucia, Betws Leucu, Ceredigion, Cymru, SY25 6SW
Eglwys Sant Gartheli, Gartheli, Nantcwnlle, Llwyn-y-groes, Ceredigion, Cymru, SA48 8PP
Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, Ceredigion, Cymru, SY25 6RX
Eglwys Sant Cybi, Llangybi, Ceredigion, Cymru, SA48 8NG
Eglwys Sant Bledrws, Betws Bledrws, Ceredigion, Cymru, SA48 8NX
Eglwys y Santes Fair, Llanfair Clydogau, Ceredigion, Cymru, SA48 8LJ
Eglwys Dewi Sant, Llan-y-crwys, Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA19 8LX
Eglwys Sant Llonio, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA39 9LT
Eglwys y Santes Gwenog, Llanwenog, Cwrtnewydd, Ceredigion, Cymru, SA40 9UT
Eglwys Sant Pedr, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9UD
Eglwys Sant Padrig, Pencarreg, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9QQ
Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7EL
Maestir Road, Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7JW
Eglwys Sant Gwynin, Llanwnnen, Ceredigion, Cymru, SA48 7LA
Eglwys Sant Iago, Cwmann, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA48 8DU
Saif yr eglwys ar graig aruchel sy’n edrych dros ddyffryn Teifi, ar yr A485 rhwng Llanybydder a Llanbedr Pont Steffan.
Cod Post SA40 9QQ
Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans SN53504503
Eglwys blwyf oedd eglwys Pencarreg yn wreiddiol. Cafodd adfowswn yr eglwys ei rhoi gan y brenin Rhisiart ll i Abaty Ystrad Fflur, cyhyd â bod gweddïau rheolaidd yn cael eu hoffrymu i enaid ei dad, sef Edward y Tywysog Du, Tywysog Cymru.
Ceir ansicrwydd am gysegriad canoloesol yr eglwys. Yn 1733, nododd Browne Willis fod yr eglwys wedi’i chysegru i Sant Padarn, ond ymddengys ei fod yn ei gywiro ei hun mewn cyhoeddiad wedyn pan ddywed mai Sant Padrig oedd ei nawddsant. Yn 1889 cofnododd yr Arolwg Ordnans mai Eglwys Sant Mihangel oedd enw’r eglwys, ond newidiodd yr enw i Eglwys Sant Padrig yn 1905.
Mae ôl llawer o waith addasu ar du allan yr eglwys, a nodwedd amlycaf yr adeilad yw cwt clychau mawr ac ynddo ddau agoriad uwchlaw pen gorllewinol yr eglwys.
Mae plac sy’n dyddio o oddeutu 1825, gan D. Mainwaring, yn coffáu’r Fonesig Sarah de Crespigny (née Windsor), merch pedwerydd iarll Plymouth. Roedd yn wraig i Syr William Champion de Crespigny a oedd yn farwnig lleol, yn Aelod Seneddol dros Southampton ac yn un o ddisgynyddion yr Huguenots a oedd yn deulu amlwg.
Eglwysi eraill sydd gerllaw










