Llanwnnen
Mae eglwys Llanwnnen ar safle uchel sy’n edrych dros afon Grannell. Eglwys ganoloesol yw’r eglwys restredig Gradd II i raddau helaeth. Bernir bod corff yr eglwys yn dyddio o’r ddeuddegfed ganrif a bod y gangell yn dyddio’n ôl pob tebyg o’r drydedd neu’r bedwaredd ganrif ar ddeg.
Mae’r eglwys wedi’i chysegru erbyn hyn i’r Santes Lucia, ond ceir cryn dipyn o ansicrwydd am gysegriad gwreiddiol yr eglwys. Gallai fod wedi’i chysegru yn flaenorol i sant o’r enw Gwynen.
Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, Ceredigion, Cymru, SY25 6ES
Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig, Ceredigion, Cymru, SY25 6AA
Eglwys Sant Caron, Tregaron, Ceredigion, Cymru, SY25 6JL
Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal, Lledrod, Ceredigion, Cymru, SY23 4TS
Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Odwyn, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TZ
Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TR
Eglwys y Santes Lucia, Betws Leucu, Ceredigion, Cymru, SY25 6SW
Eglwys Sant Gartheli, Gartheli, Nantcwnlle, Llwyn-y-groes, Ceredigion, Cymru, SA48 8PP
Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, Ceredigion, Cymru, SY25 6RX
Eglwys Sant Cybi, Llangybi, Ceredigion, Cymru, SA48 8NG
Eglwys Sant Bledrws, Betws Bledrws, Ceredigion, Cymru, SA48 8NX
Eglwys y Santes Fair, Llanfair Clydogau, Ceredigion, Cymru, SA48 8LJ
Eglwys Dewi Sant, Llan-y-crwys, Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA19 8LX
Eglwys Sant Llonio, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA39 9LT
Eglwys y Santes Gwenog, Llanwenog, Cwrtnewydd, Ceredigion, Cymru, SA40 9UT
Eglwys Sant Pedr, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9UD
Eglwys Sant Padrig, Pencarreg, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9QQ
Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7EL
Maestir Road, Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7JW
Eglwys Sant Gwynin, Llanwnnen, Ceredigion, Cymru, SA48 7LA
Eglwys Sant Iago, Cwmann, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA48 8DU
Mae’r eglwys ar y B4337 (Bro Cadarn) wrth gyffordd yr heol honno â’r A475 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Chastellnewydd Emlyn.
Cod Post SA48 7LA
Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans SN53324727
Cafodd yr eglwys ei hadfer yn 1877 gan y pensaer medrus R. J. Withers a oedd yn gyfrifol am waith eglwysig amrywiol yn yr ardal, yn enwedig y gwaith o ailadeiladu Eglwys Sant Pedr yn Llanbedr Pont Steffan gerllaw.
Mae’r tŵr yn edrych fel pe bai’n dyddio o’r bymthegfed ganrif, ond cafodd ei ychwanegu mewn gwirionedd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae tu mewn yr eglwys yn ddymunol ac yn cynnwys ffenestr liw ddwyreiniol ac ynddi dri phaen o oddeutu 1931, sy’n portreadu’r Atgyfodiad. Mae cwpan canoloesol i’w weld yn yr eglwys yn ogystal â tharian sydd wedi’i haddurno ag arfbais Syr Rhys ap Thomas (1449–1525) a oedd yn un o gefnogwyr nodedig Harri Vll. Uwchlaw tu allan y drws gorllewinol y mae plac sydd wedi erydu o ffigwr benywaidd o’r bymthegfed ganrif.
Mae’r dystiolaeth gynharaf ynghylch cysegriad yr eglwys yn awgrymu mai’r Santes Lucia oedd ei nawddsant, sef y Santes Lucy of Syracuse yn ôl pob tebyg, un o ddioddefwyr erledigaeth Diocletian ac un o ferthyron gwyryfol enwocaf yr eglwys orllewinol. Roedd dyddiad ei dydd gŵyl hi yr un fath â’r dyddiad a roddwyd ar gyfer dydd gŵyl y plwyf mewn ffynonellau o’r ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Roedd Llanwnnen yn ganolfan Undodiaeth ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda’r Tractariaid yn disgrifio’r ardal fel y spotyn du, sy’n ddisgrifiad yr oedd yr Undodiaid yn ei arddel gyda balchder.
Eglwysi eraill sydd gerllaw








