Mae afon Teifi yn tarddu yn Llynnoedd Teifi ym Mynyddoedd Cambria uwchlaw Pontrhydfendigaid, sy’n ardal o dir ffermio a gwlyptiroedd cyfoethog. Ar hyd ei thaith i lawr i’r môr yn Aberteifi, mae’r afon yn ymdroelli drwy gymunedau Cymreig gwledig hardd ac yn llifo heibio i’w heglwysi a heibio i’r bryngaerau a’r carneddau o’r Oes Efydd a’r Oes Haearn sydd gerllaw. Mae’r afon yn enwog ymhlith y sawl sy’n hoff o bysgota am lysywod a brithyll.
Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sydd yn yr ardal yn cynnwys Llyn Pencarreg, sef llyn oligotrothig a rhewlifol, a Chors Caron a elwir hefyd yn Gors Goch Glanteifi. Mae Cors Caron yn Ardal Cadwraeth Arbennig, yn safle gwlyptiroedd o bwys rhyngwladol, ac yn un o’r enghreifftiau gorau o gyforfawnogydd a welir ar yr iseldir ym Mhrydain.
Roedd yr abaty Sistersaidd yn Ystrad Fflur yn sgriptoriwm canoloesol ac, felly, yn rhan annatod o ddatblygiad diwylliant Cymru, a dyma fan gorffwys tywysogion Dinefwr a’r bardd Dafydd ap Gwilym. Mae drws Romanésg trawiadol yr abaty a theils canoloesol sydd wedi goroesi i’w gweld wrth ymyl yr eglwys bresennol.
Mae’r ardal yn lle ardderchog i gerdded a beicio. Mae Llwybr y Mynaich yn hen sarn sy’n ymestyn o Ystrad Fflur i hen safle Sistersaidd arall, sef Abaty Cwm-hir yn Sir Faesyfed, ac mae’n pasio tarddle afon Teifi. Mae Sarn Helen, sef y ffordd Rufeinig, wedi cael ei defnyddio fel llwybr ers canrifoedd ac mae’n agos i eglwysi Blaenpennal, Cellan a Llanbadarn Odwyn.
Gellir mwynhau crefftwaith newydd a thraddodiadol yn yr ardal hefyd, sy’n cynnwys Canolfan Aur Cymru Rhiannon yn Nhregaron yn ogystal â gwaith crochenwyr a chwiltwyr. Mae’r Ganolfan Cwiltiau Cymreig ger Eglwys Sant Pedr yn Llanbedr Pont Steffan yn dathlu ac yn hyrwyddo hanes cyfoethog cwiltio yng Nghymru.
Mae dyffryn Teifi yn gartref i nifer gynyddol o gynhyrchwyr bwyd organig artisan. Mae canolfan fwyd a gaiff ei rhedeg gan y gymuned yn cynnig cynnyrch lleol ardderchog.
Atyniadau a mentrau lleol
Afon Teifi a’i hisafonydd: Darganfod Ceredigion












