Y Parchedig Eliezer Williams
Ysgol ramadeg Llanbedr Pont Steffan, y gwrthryfel ar long y Bounty, a Syr Walter Scott
Yn union gyferbyn â phrif glwydi mynwent Eglwys Sant Pedr y mae’r adeilad bach a godwyd i fod yn gartref i ysgol ramadeg enwog Llanbedr Pont Steffan. Sefydlwyd yr ysgol, ar gais yr Esgob Burgess o Dyddewi, gan y Parchedig Eliezer Williams (1754–1820) pan ddaeth y polymath hwnnw’n ficer yn 1805.
Cafodd Williams ei eni’n lleol, a matricwleiddiodd o Goleg yr Iesu, Rhydychen yn 1775. Yn fuan, pan oedd yn giwrad yn Wellingford yn Berkshire, daeth Shute Barrington, sef Esgob Durham, yn ffrind iddo a chynnig y gallai Williams fod yn gaplan iddo. Roedd Williams yn berson byrbwyll, ac er mawr ofid iddo’n nes ymlaen yn ei fywyd gwrthododd y swydd, ac yn 1780 aeth i’r môr i fod yn gaplan HMS Cambridge, sef llong ryfel ac arni 80 o ynnau.
Roedd yn bresennol adeg Rhyddhad Gibraltar yn 1782 ac adeg Brwydr Penrhyn Spartel yn yr un flwyddyn. Un o swyddogion llong y Cambridge oedd y Lefftenant William Bligh a oedd yn rheoli’r HMS Bounty yn 1789 adeg gwrthryfel ei chriw. Aelod arall o griw llong y Cambridge oedd dyn ifanc o’r enw Fletcher Christian a ddaeth wedyn yn arweinydd y gwrthryfelwyr ar long y Bounty.
Yn aml, roedd dyletswyddau caplan y llong yn cynnwys addysgu bechgyn a chanol-longwyr ifanc y llong. Felly, byddai Williams wedi adnabod Christian yn dda a byddai hefyd wedi rhannu cyfleusterau’r llong i swyddogion â Bligh.
Rhoddodd Williams y gorau i’w ddyletswyddau morwrol gan ddilyn gyrfa academaidd i raddau helaeth. Daeth yn enwog am ymchwilio i achau ac am ysgrifennu cyfres o weithiau am hanes Cymru a’r Gymraeg. Treuliodd gyfnod hefyd yn gweithio fel caplan i warchodlu Caer Tilbury, a chyhoeddodd lawer o farddoniaeth.
Roedd ei ysgol yn Llanbedr Pont Steffan yn llewyrchus, a than arweiniad yr Archddiacon John Williams a’i olynodd fel ficer llwyddodd yr ysgol i ddenu sylw Syr Walter Scott a anfonodd ei fab Charles Scott i astudio yno.
Cafodd Coleg Dewi Sant ei sefydlu yn Llanbedr Pont Steffan yn 1822 i baratoi dynion ar gyfer bod yn offeiriaid Anglicanaidd. Dan arweiniad Llewelyn Lewellin, a oedd yn ficer Eglwys Sant Pedr ac yn Brifathro cyntaf y Coleg, daeth yr ysgol yn rhan o’r sefydliad hwnnw yn 1833.
Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, Ceredigion, Cymru, SY25 6ES
Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig, Ceredigion, Cymru, SY25 6AA
Eglwys Sant Caron, Tregaron, Ceredigion, Cymru, SY25 6JL
Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal, Lledrod, Ceredigion, Cymru, SY23 4TS
Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Odwyn, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TZ
Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TR
Eglwys y Santes Lucia, Betws Leucu, Ceredigion, Cymru, SY25 6SW
Eglwys Sant Gartheli, Gartheli, Nantcwnlle, Llwyn-y-groes, Ceredigion, Cymru, SA48 8PP
Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, Ceredigion, Cymru, SY25 6RX
Eglwys Sant Cybi, Llangybi, Ceredigion, Cymru, SA48 8NG
Eglwys Sant Bledrws, Betws Bledrws, Ceredigion, Cymru, SA48 8NX
Eglwys y Santes Fair, Llanfair Clydogau, Ceredigion, Cymru, SA48 8LJ
Eglwys Dewi Sant, Llan-y-crwys, Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA19 8LX
Eglwys Sant Llonio, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA39 9LT
Eglwys y Santes Gwenog, Llanwenog, Cwrtnewydd, Ceredigion, Cymru, SA40 9UT
Eglwys Sant Pedr, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9UD
Eglwys Sant Padrig, Pencarreg, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9QQ
Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7EL
Maestir Road, Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7JW
Eglwys Sant Gwynin, Llanwnnen, Ceredigion, Cymru, SA48 7LA
Eglwys Sant Iago, Cwmann, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA48 8DU
Cyrraedd Eglwys Llanbedr Pont Steffan
Gellir cyrraedd yr eglwys ar hyd y prif lwybr o Stryd yr Eglwys, sydd ar oleddf graddol. Mae yna lwybr gwastad â thri gris drwy’r fynedfa ym Mryn yr Eglwys.
Gellir parcio car ar y stryd ger yr eglwys ac mae maes parcio mawr arall i’w gael yng nghanol y dref.
Mae arosfannau bysiau gerllaw yn y Stryd Fawr (ar yr A475) – lle ceir gwasanaethau mynych.
Mae’n bosibl parcio beiciau wrth ymyl yr eglwys.
Mae toiledau i’w cael yng nghanol y dref.
Mae lluniaeth ar gael mewn caffis a thafarnau gerllaw.
Gwasanaethau’r eglwys ar ddydd Sul
Cymun dywededig: 8:00am yn neuadd yr eglwys gerllaw (Bryn yr Eglwys – gyferbyn â gorsaf yr heddlu)
Cymun dywededig neu wasanaeth boreol: 10:30am yn yr eglwys
Allwedd a llawlyfr 01570 421698 (drwy apwyntiad)
Eglwysi eraill sydd gerllaw
Mae Eglwys Gatholig Ein Harglwyddes o Fynydd Carmel yn agos i’r eglwys, ac ynddi ceir amrywiaeth diddorol o weithiau celf o’r 1930au.








