Y Llyngesydd John Thomas
Mae cofeb yn Llanllwni yn coffáu capten talog ffrigad yn y Llynges Frenhinol yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America
Ymunodd John Thomas â’r Llynges Frenhinol yn 1762 pan oedd yn 11 oed.
Cafodd ei eni yn 1751, yn fab i ficer Llandysul, y Parchedig John Thomas, a’i wraig Sage. Ni wyddys pam yr ymunodd â’r llynges, ond cafodd yrfa ddisglair iawn a esgorodd ar gryn dipyn o gyfoeth iddo.
Ymunodd i ddechrau â llong yr HMS Hero, sef banerlong y Llyngesydd Syr Charles Hardy a oedd newydd fod yn Llywodraethwr Efrog Newydd. Capten y llong oedd yr Anrhydeddus Samuel Barrington, sef brawd yr Is-iarll William Barrington a oedd yn Drysorydd y Llynges a’r Parchedig Shute Barrington a ddaeth yn ei dro’n Esgob Llandaf, Caersallog a Durham (gweler hefyd ficer Llanbedr Pont Steffan, Eliezer Williams).
Roedd dylanwad o’r fath yn hanfodol er mwyn dringo’r ysgol yn llynges y ddeunawfed ganrif, ond roedd John Thomas yn swyddog galluog iawn a fu’n dyst i frwydro yn nyfroedd gogledd America yn ystod Rhyfel Annibyniaeth America, lle’r enillodd lawer o arian ysbail ond lle collodd ei goes wrth gipio ffrigad Ffrengig o’r enw Surveillante. Bu’n gwasanaethu wedyn yn ystod Rhyfel y Chwyldro Ffrengig, a maes o law cyrhaeddodd reng Llyngesydd.
Defnyddiodd rywfaint o’i arian ysbail i brynu ystâd yn Llanfechan ger y man lle’i ganwyd, a bu farw yno yn 1810. Cafodd ei gladdu mewn mawsolëwm ym mynwent Llanllwni, ac mae cofeb hyfryd iddo i’w gweld yn yr eglwys.
Cymeriad lleol arall a oedd yn gysylltiedig â Rhyfel Annibyniaeth America oedd y Parchedig Eliezer Williams (1754-1820) a ddaeth yn ficer Llanbedr Pont Steffan yn 1805. Cyn hynny bu’n gaplan y llong HMS Cambridge, sef llong ryfel ac arni 80 o ynnau, ac roedd yn bresennol adeg Rhyddhad Gibraltar yn 1782 ac adeg Brwydr Penrhyn Spartel yn yr un flwyddyn.
Eglwys y Santes Fair, Ystrad Fflur, Ceredigion, Cymru, SY25 6ES
Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig, Ceredigion, Cymru, SY25 6AA
Eglwys Sant Caron, Tregaron, Ceredigion, Cymru, SY25 6JL
Eglwys Dewi Sant, Blaenpennal, Lledrod, Ceredigion, Cymru, SY23 4TS
Eglwys Sant Padarn, Llanbadarn Odwyn, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TZ
Eglwys Sant Ceitho, Llangeitho, Ceredigion, Cymru, SY25 6TR
Eglwys y Santes Lucia, Betws Leucu, Ceredigion, Cymru, SY25 6SW
Eglwys Sant Gartheli, Gartheli, Nantcwnlle, Llwyn-y-groes, Ceredigion, Cymru, SA48 8PP
Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, Ceredigion, Cymru, SY25 6RX
Eglwys Sant Cybi, Llangybi, Ceredigion, Cymru, SA48 8NG
Eglwys Sant Bledrws, Betws Bledrws, Ceredigion, Cymru, SA48 8NX
Eglwys y Santes Fair, Llanfair Clydogau, Ceredigion, Cymru, SA48 8LJ
Eglwys Dewi Sant, Llan-y-crwys, Ffarmers, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA19 8LX
Eglwys Sant Llonio, Llanllwni, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA39 9LT
Eglwys y Santes Gwenog, Llanwenog, Cwrtnewydd, Ceredigion, Cymru, SA40 9UT
Eglwys Sant Pedr, Llanybydder, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9UD
Eglwys Sant Padrig, Pencarreg, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA40 9QQ
Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7EL
Maestir Road, Barley Mow, Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion, Cymru, SA48 7JW
Eglwys Sant Gwynin, Llanwnnen, Ceredigion, Cymru, SA48 7LA
Eglwys Sant Iago, Cwmann, Sir Gaerfyrddin, Cymru, SA48 8DU
Mae’r eglwys ym mhentref bach Maesycrugiau, i’r gogledd-orllewin o Lanllwni ar yr A485.
Cod Post SA39 9LT
Cyfeirnod Grid yr Arolwg Ordnans SN47344130
- Coflein (Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru)
- Catalog Gwydr Lliw yng Nghymru
Cofeb i’r Llyngesydd John Thomas
Eglwysi eraill sydd gerllaw








