Bedyddfeini ar hyd y Llwybr Ffydd
Mae gan yr eglwysi ar hyd Llwybr Ffydd Afon Teifi gasgliad cyfoethog o fedyddfeini canoloesol, yn ogystal ag enghreifftiau gwych o gyfnodau sy’n hwyrach na hynny.
Mae pump o’r bedyddfeini wedi’u dyddio i’r ddeuddegfed ganrif. O blith y rheini, yr unig un diaddurn yw’r un yn Eglwys Sant Bledrws ym Metws Bledrws, sy’n fedyddfaen sgwâr bach ac iddo ymylon siamffrog.
Mae gan Eglwys Llanfair Clydogau bowlen siâp cylch sy’n cynnwys symbolau wedi’u brasgerfio o’r pedwar efengylwr. Mae’r symbolau hynny wedi’u disgrifio fel a ganlyn: ‘a massively un-angelic face, a raven-like eagle, a goat-like bull and an owl-like lion’.
Mae yna fedyddfaen neilltuol yn Eglwys Sant Padrig, Pencarreg, ac arno ben â mwgwd cerfiedig ym mhob un o’i bedwar cornel, a allai fod yn cynrychioli’r pedwar efengylwr. Mae deuddeg o wynebau ffyrnig, di-chwaeth i’w gweld ar y bedyddfaen yn Eglwys y Santes Gwenog, Llanwenog ac mae cwpan canoloesol i’w weld hefyd ym mynedfa’r tŵr.
Mae gan y bedyddfaen sgwâr yn Eglwys y Santes Fair, Maestir ffigurau eithaf cywrain o’r efengylwyr ym mhob cornel. Yn eglwys gynharach Sant Pedr yn Llanbedr Pont Steffan yr oedd y bedyddfaen hwn yn wreiddiol, a chafodd ei symud yma pan gafodd yr eglwys Sant Pedr bresennol ei chodi tua 1870.
Ceir ansicrwydd ynglŷn â’r cyfnod y mae’r bedyddfeini sgwâr yn Eglwys Dewi Sant, Llan-y-crwys ac Eglwys yr Holl Saint, Cellan yn perthyn iddo. Mae’r bedyddfaen sgwâr yn Llanllwni yn dyddio o’r drydedd ganrif ar ddeg, ac mae’r bedyddfaen saithochrog yn Nhregaron yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar ddeg.
Mae enghreifftiau gwych o fedyddfeini Fictoraidd i’w gweld yn Eglwys Dewi Sant, Llanddewi Brefi, Eglwys Sant Pedr, Llanbedr Pont Steffan ac Eglwys y Santes Lucia, Llanwnnen, a chafodd pob un ohonynt eu dylunio gan y pensaer R. J. Withers. Mae gan Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr, Ystrad Meurig fedyddfaen wythochrog gan Harold Hughes, y pensaer Celf a Chrefft. Mae’r wyth ochr yn cynrychioli’r wyth diwrnod rhwng yr adeg pan wnaeth Crist farchogaeth i mewn i Jerwsalem ar Sul y Palmwydd, a’r Atgyfodiad.













